Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Rhwymedigaethau) (Cymru) 2018

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 981 (Cy. 201)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Rhwymedigaethau) (Cymru) 2018

Gwnaed

6 Medi 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Medi 2018

Yn dod i rym

1 Hydref 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 22(1) a (4) a 203(2), (9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 22(7) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Rhwymedigaethau) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2018.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “AaGIC” (“HEIW”) yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru a sefydlwyd gan erthygl 2 o Orchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017(2);

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Hydref 2018;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “GGAD” (“WEDS”) yw Gwasanaeth y Gweithlu, Addysg a Datblygu yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre;

ystyr “swyddogaethau AaGIC” (“HEIW’s functions”) yw’r swyddogaethau a nodir yn erthygl 3 o Orchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017;

ystyr “Ymddiriedolaeth GIG Felindre” (“Velindre NHS Trust”) yw’r Ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993(3).

Trosglwyddo staff i AaGIC

3.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw berson—

(a)sydd wedi ei gyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo mewn cysylltiad â swyddogaethau GGAD; a

(b)sydd wedi cael ei hysbysu’n ysgrifenedig gan ei gyflogwr cyn y dyddiad trosglwyddo ei fod i’w drosglwyddo i AaGIC.

(2Mae contract cyflogaeth unrhyw berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i’w drosglwyddo i AaGIC.

(3O ran contract cyflogaeth person y mae ei gyflogaeth wedi ei throsglwyddo i AaGIC o dan baragraff (2)—

(a)nid yw’r trosglwyddiad yn ei derfynu; a

(b)mae’n cael effaith o’r dyddiad trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw ac AaGIC.

(4Heb ragfarnu paragraff (3)—

(a)mae holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth GIG Felindre o dan gontract cyflogaeth unrhyw berson y trosglwyddwyd ei gyflogaeth i AaGIC ar y dyddiad trosglwyddo o dan baragraff (2), neu mewn cysylltiad â’r contract hwnnw, i’w trosglwyddo i AaGIC; a

(b)bernir bod unrhyw weithred neu anweithred cyn y dyddiad trosglwyddo gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre neu mewn perthynas â hi, mewn cysylltiad â’r person hwnnw neu gontract cyflogaeth y person hwnnw, yn weithred neu anweithred gan AaGIC neu mewn perthynas ag ef.

(5Nid yw paragraffau (2) i (4) yn cael effaith i drosglwyddo contract cyflogaeth person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, neu unrhyw hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan y contract hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef, os yw’r person hwnnw, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn rhoi gwybod i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ei fod yn gwrthwynebu dod yn gyflogedig gan AaGIC.

(6Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo wedi gwrthwynebu trosglwyddo ei gontract cyflogaeth i AaGIC fel y’i disgrifir ym mharagraff (5), mae’r trosglwyddiad yn gweithredu er mwyn terfynu contract cyflogaeth y person hwnnw ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid yw person y mae ei gontract cyflogaeth yn cael ei derfynu yn unol â pharagraff (6) i’w drin, at unrhyw ddiben, fel pe bai wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr.

(8Pan fo’r trosglwyddiad yn golygu, neu pan fyddai’n golygu, newid sylweddol yn yr amodau gwaith gan arwain at niwed sylweddol i berson y mae ei gyflogaeth yn cael ei throsglwyddo neu y byddai ei gyflogaeth wedi cael ei throsglwyddo o dan baragraff (2), caiff y person hwnnw drin y contract cyflogaeth fel pe bai wedi cael ei derfynu, ac mae’r person hwnnw i’w drin at unrhyw ddiben fel pe bai wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr.

(9Nid yw unrhyw iawndal i fod yn daladwy gan gyflogwr o ganlyniad i ddiswyddo sy’n dod o fewn paragraff (8) mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant gan y cyflogwr i dalu cyflog i berson mewn cysylltiad â chyfnod rhybudd y mae’r person wedi methu â’i weithio.

(10Nid yw paragraffau (2), (3), a (5) i (8) yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan berson sy’n codi ar wahân i’r erthygl hon i derfynu contract cyflogaeth y person hwnnw heb rybudd wrth dderbyn tor contract ymwrthodol gan y cyflogwr.

(11Mae cofnodion Ymddiriedolaeth GIG Felindre sy’n ymwneud â chyflogaeth y personau hynny y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt ac y mae eu contractau cyflogaeth i’w trosglwyddo i AaGIC yn unol â’r erthygl hon i’w trosglwyddo i AaGIC ar y dyddiad trosglwyddo.

Trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau

4.—(1Mae unrhyw eiddo neu dir a ddelir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac a nodir yn yr Atodlen i’w trosglwyddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i AaGIC.

(2Gydag effaith o’r dyddiad trosglwyddo ymlaen, bydd y cynnwys yn neu ar yr eiddo neu’r tir a nodir yn yr Atodlen a’r holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a chofnodion eraill sy’n ymwneud ag ef y mae gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre hawlogaeth iddynt neu y mae’n ddarostyngedig iddynt, yn cael eu trosglwyddo i AaGIC.

(3Mae holl rwymedigaethau Ymddiriedolaeth GIG Felindre sy’n ymwneud â’r eiddo a nodir yn yr Atodlen i’w trosglwyddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i AaGIC.

(4Mae unrhyw hawl sy’n ymwneud â thir neu eiddo a nodir yn yr Atodlen a oedd yn orfodadwy gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, neu yn ei herbyn, cyn y dyddiad trosglwyddo i fod, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn orfodadwy gan AaGIC neu yn ei erbyn.

(5Bydd unrhyw eiddo, buddiannau, hawliau neu rwymedigaethau sydd gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac eithrio’r rhai hynny a restrir yn yr Atodlen a ddefnyddir neu a ddelir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a hynny yn unig neu yn bennaf—

(a)ar gyfer cyflawni swyddogaethau GGAD; neu

(b)mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau GGAD;

yn trosglwyddo i AaGIC ar y dyddiad trosglwyddo.

Trosglwyddo data, cofnodion a gwybodaeth

5.  I’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu trosglwyddo yn rhinwedd erthygl 4, mae unrhyw ddata, cofnod neu wybodaeth a ddelir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre yr oedd yr Ymddiriedolaeth honno, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn eu defnyddio at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau AaGIC, i’w trosglwyddo i AaGIC.

Darpariaethau atodol

6.—(1Mae unrhyw beth a wneir gan neu mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre at ddibenion yr eiddo, yr hawliau neu’r rhwymedigaethau sydd wedi eu trosglwyddo o dan y Gorchymyn hwn, neu fel arall mewn cysylltiad â hwy, i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas ag AaGIC.

(2Mae unrhyw beth (a all gynnwys achos cyfreithiol) sydd, pan fo’r Gorchymyn hwn yn cymryd effaith, wrthi’n cael ei wneud gan neu mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre mewn cysylltiad ag

(a)yr arfer gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre mewn cysylltiad â swyddogaethau GGAD; neu

(b)unrhyw eiddo neu unrhyw un neu ragor o’r hawliau neu’r rhwymedigaethau sydd wedi eu trosglwyddo o dan y Gorchymyn hwn,

i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas ag AaGIC, a chaniateir iddo gael ei barhau gan neu mewn perthynas ag AaGIC.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at Ymddiriedolaeth GIG Felindre neu GGAD mewn unrhyw gytundeb (pa un a yw’n ysgrifenedig ai peidio), offeryn neu ddogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sydd wedi eu trosglwyddo o dan y Gorchymyn hwn, i’w drin fel pe bai’n gyfeiriad at AaGIC.

(4Yn ddarostyngedig i erthygl 3(8), nid yw unrhyw hawl i derfynu neu i amrywio contract, trefniant neu offeryn i weithredu neu i ddod yn arferadwy, ac nid yw unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw gontract, trefniant neu offeryn i weithredu neu i ddod yn arferadwy neu i gael ei thorri, oherwydd unrhyw drosglwyddiad o dan y Gorchymyn hwn neu oherwydd unrhyw weithrediad arall o’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r trosglwyddiadau y darperir ar eu cyfer gan y Gorchymyn hwn i’w gwneud—

(a)ni waeth a oes unrhyw ofyniad ar gyfer cydsyniad a fyddai fel arall yn gymwys (pa un a yw’n codi o dan unrhyw ddeddfiad, offeryn, cytundeb neu fel arall); a

(b)pa un a fyddent fel arall yn gallu cael eu trosglwyddo ai peidio; ac

(c)ni waeth a oes unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai fel arall yn atal y trosglwyddiadau hynny neu’n cyfyngu arnynt.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

6 Medi 2018

Erthygl 4

YR ATODLENEiddo a Rhwymedigaethau sy’n Trosglwyddo i AaGIC

Les ddyddiedig 18 Mai 2018 ac a wnaed rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (1) ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre (2)

Cytundeb dyddiedig 1 Ebrill 2013 ac a wnaed rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (a letyir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre) (1) a Phrifysgol Glyndŵr (2)

Cytundeb dyddiedig 1 Awst 2013 ac a wnaed rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (a letyir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre) (1) ac Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth Prifysgol Caerdydd (2)

Cytundeb dyddiedig 1 Awst 2013 ac a wnaed rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (a letyir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre) (1) a Choleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe (2)

Cytundeb dyddiedig 1 Awst 2013 ac a wnaed rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (a letyir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre) (1) a Phrifysgol De Cymru (2)

Cytundeb dyddiedig 1 Awst 2013 ac a wnaed rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (a letyir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre) (1) ac Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor (2)

Cytundeb dyddiedig 1 Awst 2013 ac a wnaed rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (a letyir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre) (1) a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd (2)

Contract dyddiedig 21 Gorffennaf 2017 ac a wnaed rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Caffael) (1) a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste (2)

Contract dyddiedig 11 Ionawr 2018 ac a wnaed rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Caffael) (1) a’r Brifysgol Agored (2)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae Awdurdod Iechyd Arbennig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”), wedi cael ei sefydlu o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae prif swyddogaethau AaGIC yn ymwneud â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae nifer o’r swyddogaethau hyn yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Wasanaeth y Gweithlu, Addysg a Datblygu yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff (erthygl 3) ac eiddo, hawliau a rhwymedigaethau (erthygl 4) o Ymddiriedolaeth GIG Felindre i AaGIC.

Mae erthygl 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo data, cofnodion a gwybodaeth.

Mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer parhad pethau a wneir gan neu mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre.