Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 1 Hydref 2018.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “atal ffynnon dros dro” (“well suspension”) yw atal defnyddio ffynnon dros dro fel y gellir ei hailddefnyddio at ddiben drilio neu waith arall;
ystyr “cynnig ardal ddatblygu” (“development area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio’r lleoliadau daearyddol o fewn maes petrolewm pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gwaith datblygu a chynhyrchu gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, cynllun sy’n nodi’r gweithgareddau i’w gwneud;
ystyr “cynnig ardal gadw” (“retention area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio lleoliadau daearyddol pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gweithgareddau fforio a gwerthuso;
mae “ffynnon” (“well”) yn cynnwys twll turio;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sydd wedi ei benodi’n weithredwr gosod, yn weithredwr ffynnon neu’r ddau;
ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu’n ysgrifenedig;
ystyr “rhaglen ddatblygu a chynhyrchu” (“development and production programme”) yw rhaglen a gyflwynir yn unol â thrwydded petrolewm sy’n nodi’r mesurau y cynigir eu cymryd mewn cysylltiad â datblygu a chynhyrchu maes petrolewm;
ystyr “rhaglen waith” (“work programme”) yw rhaglen sydd wedi ei nodi mewn atodlen i drwydded petrolewm sy’n nodi’r archwiliadau sydd i’w cynnal yn ystod y tymor cychwynnol, gan gynnwys unrhyw arolwg daearegol drwy unrhyw ddull ffisegol neu gemegol ac unrhyw brofion drilio;
mae i “trwydded datblygu a fforio petrolewm” yr ystyr a roddir i “petroleum exploration and development licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
mae i “trwydded draenio methan” yr ystyr a roddir i “methane drainage licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
mae i “trwydded fforio petrolewm tua’r tir” yr ystyr a roddir i “landward petroleum exploration licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
ystyr “trwyddedai” (“licensee”) yw deiliad trwydded petrolewm.
Y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer cais am drwydded petrolewm3.
Rhaid i berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded petrolewm a restrir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 dalu’r ffi gyfatebol yn ail golofn y tabl hwnnw.
Math o drwydded | Y ffi sy’n daladwy |
|---|---|
Trwydded fforio petrolewm tua’r tir | £500 |
Trwydded draenio methan | £50 |
Trwydded datblygu a fforio petrolewm | £1,400 |
Ffi am gydsyniad ar gyfer rhaglen ddatblygu a chynhyrchu4.
(1)
Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer rhaglen ddatblygu a chynhyrchu dalu ffi.
(2)
Mae swm y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn cael ei bennu gan y fformiwla—
pan fo—
A yn nifer y diwrnodau; a
B yn nifer y swyddogion
sy’n ofynnol er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch y cais.
(3)
Rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(4)
Ym mharagraff (2), ystyr “swyddog” (“officer”) yw person a gymerir ymlaen gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan, i gyflawni’r swyddogaeth y mae’r ffi berthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hi.
Y ffi sy’n daladwy am gydsyniad ar gyfer cynnig ardal gadw neu gynnig ardal ddatblygu5.
(1)
Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer cynnig ardal gadw neu gynnig ardal ddatblygu dalu ffi o £1068 os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad.
(2)
Rhaid talu’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
Ffioedd penodedig sy’n daladwy am gydsyniadau eraill6.
(1)
Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer gweithgaredd neu fater a restrir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 dalu’r ffi gyfatebol yn ail golofn y tabl hwnnw.
(2)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid talu’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) ar adeg gwneud y cais, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(3)
Mewn perthynas â’r gweithgareddau a restrir ym mharagraff (4), rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(4)
Mae’r gweithgareddau fel a ganlyn—
(a)
cais am gydsyniad i estyn tymor cychwynnol, ail dymor neu dymor terfynol trwydded petrolewm;
(b)
cais am gydsyniad i ddiwygio rhaglen waith.
Gweithgaredd neu fater y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer | Y ffi sy’n daladwy |
|---|---|
Drilio prif ffynnon | £729 |
Drilio ffynnon ddargyfeirio sy’n fforchio o’r brif ffynnon i leoliad targed gwahanol i’r brif ffynnon | £596 |
Gosod neu ailosod offer mewn ffynnon at ddiben galluogi cynhyrchu neu chwistrellu hydrocarbon | £566 |
Cael gafael ar betrolewm o ardal drwyddedig | £1,052 |
Newid cydsyniad er mwyn cael gafael ar betrolewm o ardal drwyddedig | £1,052 |
Llosgi neu awyru petrolewm o ffynnon | £765 |
Newid cydsyniad i losgi neu awyru petrolewm o ffynnon | £765 |
Atal ffynnon dros dro | £596 |
Ailddechrau defnyddio unrhyw ffynnon sydd wedi ei hatal dros dro | £566 |
Cefnu ar ffynnon yn barhaol | £566 |
Newid trwyddedai trwydded petrolewm | £401 |
Newid y buddiolwr hawliau a roddir gan drwydded petrolewm | £401 |
Penodi gweithredwr o dan drwydded petrolewm | £1,201 |
Estyn tymor cychwynnol, ail dymor neu dymor terfynol trwydded petrolewm | £1,000 |
Diwygio rhaglen waith | £1,000 |
Y ffi sy’n daladwy er mwyn pennu maes olew7.
(1)
(2)
Rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
Talu ffioedd8.
(1)
Rhaid i ffi sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn gael ei thalu yn y fath fodd ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei bennu.
(2)
Nid yw ffi wedi ei thalu o dan y Rheoliadau hyn hyd nes bod Gweinidogion Cymru wedi cael swm cyfan y ffi mewn arian cliriedig.
(3)
Mae ffi sy’n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn yn adferadwy fel dyled sifil.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru godi ffioedd mewn cysylltiad â chais iddynt am drwydded petrolewm o dan Ddeddf Petrolewm 1998 ac ar gyfer cydsyniadau sy’n ofynnol o dan y trwyddedau hynny ar gyfer gweithgareddau a materion amrywiol a restrir.
Mae rheoliadau 1 a 2 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol.
Mae rheoliad 3 yn nodi’r ffi sy’n daladwy wrth wneud cais am drwydded o dan adran 4 o Ddeddf Petrolewm 1998.
Mae rheoliad 4 yn nodi fformiwla ar gyfer pennu’r ffi sy’n daladwy wrth wneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer rhaglen ddatblygu a chynhyrchu. Mae rheoliad 5 yn nodi’r ffi sy’n daladwy wrth wneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer cynnig ardal gadw neu ardal ddatblygu. Mae rheoliad 6 yn nodi’r ffioedd penodedig sy’n daladwy wrth wneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer nifer o weithgareddau a restrir. Mae rheoliad 7 yn nodi’r ffi sy’n daladwy wrth wneud cais i Weinidogion Cymru am benderfyniad ynghylch maes olew.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.