NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ail-wneud gyda diwygiadau Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy. 282)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn parhau i orfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t. 1) (“Rheoliad TSE yr UE”).

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn darparu mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad TSE yr UE, ac eithrio yn Atodlen 7, lle yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys (rheoliad 3). Rhaid i anifeiliaid a gedwir at ddibenion ymchwil (ac nad yw Rheoliad TSE yr UE yn gymwys iddynt) gael eu gwaredu yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 1) (rheoliad 4).

Mae’r darpariaethau yn Rhan 2 yn nodi’r rheolaethau TSE sy’n destun gorfodaeth o dan y Rheoliadau hyn ac yn cyflwyno Atodlenni 2 i 8.

Mae Rhan 3 yn ymdrin â gweinyddu a gorfodi.

Mae rheoliadau 7 i 11 yn ymdrin â chymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu a chofrestru, dyletswyddau’r meddiannydd, atal dros dro, diwygio a dirymu cymeradwyaethau etc., a gweithdrefn apelio.

Mae rheoliad 12 yn ymdrin â phrisiadau.

Mae rheoliadau 13 i 15 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru, yr awdurdod lleol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd benodi arolygwyr, ac yn ymdrin â phwerau mynediad a phwerau arolygwyr. Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer gweithdrefn hysbysu, mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau ac mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer trwyddedau sy’n caniatáu symud yn ystod cyfnod o gyfyngu ar symud.

Mae rheoliadau 19 i 21 yn ymdrin â chosbau a throseddau.

Mae rheoliad 22 yn manylu ar bwy sy’n gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 23 yn cynnwys rhai diwygiadau canlyniadol.

Mae rheoliad 24 yn ymdrin â dirymiadau.

Mae rheoliad 25 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.

Mae Atodlen 1 yn nodi’r gofynion TSE.

Mae Atodlen 2 yn nodi’r gofynion o ran monitro ar gyfer TSE a chymeradwyo labordai ac yn darparu ar gyfer digolledu.

Mae Atodlen 3 yn ymdrin â rheoli a dileu TSEs mewn anifeiliaid buchol, ac at y dibenion hynny mae’n gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dalu digollediad am anifail buchol.

Mae Atodlen 4 yn ymdrin â rheoli a dileu TSEs mewn defaid a geifr, ac at y dibenion hynny mae’n gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dalu digollediad am ddefaid a geifr.

Mae Atodlen 5 yn ymdrin â rheoli a dileu TSEs mewn anifeiliaid nad ydynt yn fuchol, yn ddefeidiog nac yn afraidd, ac at y dibenion hynny mae’n gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dalu digollediad.

Mae Atodlen 6 yn ymdrin â bwydydd anifeiliaid. Mae Rhan 1 yn ymwneud â chyfyngiadau ar fwydo protein i anifeiliaid ac yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dalu digollediad am gigydda anifeiliaid sydd wedi cael mynediad i fwydydd anifeiliaid anghyfreithlon. Mae Rhan 2 yn ymdrin â rheolaethau ar gynhyrchu protein a bwydydd anifeiliaid.

Mae Atodlen 7 yn ymwneud â deunydd risg penodedig, cig a wahenir yn fecanyddol a thechnegau cigydda. Penodir yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys at ddibenion yr Atodlen hon.

Mae Atodlen 8 yn ymdrin ag allforio anifeiliaid buchol byw a chynhyrchion sy’n deillio ohonynt i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.