NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 39 a 58(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“Deddf 2004”) ac maent yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).

Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chyfrifon ac archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae’n ofynnol archwilio eu cyfrifon yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 2004. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2014 mewn tri chyswllt.

Mae Rheoliadau 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff perthnasol mwy gyhoeddi hysbysiadau penodol mewn papurau newydd lleol. Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofyniad hwnnw ac yn gosod gofyniad yn ei le i arddangos hysbysiad mewn o leiaf un lle amlwg yn ardal y corff.

Mae rheoliad 4 yn dileu’r gofyniad i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol gynnwys, yn eu datganiad o gyfrifon, y cyfrifon ar gyfer cronfeydd pensiwn a weinyddir yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013.

O dan Reoliadau 2014, mae’n ofynnol i gyrff llywodraeth leol baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi. Mae rheoliadau 5 ac 8 yn newid yr amserlen i gyrff llywodraeth leol baratoi a chyhoeddi eu datganiad o gyfrifon fel a ganlyn.

Mewn perthynas â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018, mae’n ofynnol i awdurdodau tân ac achub, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin 2018’ a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi 2018’. Mewn perthynas â blwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 neu ar ôl hynny, mae’n ofynnol i gyrff o’r fath baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 31 Mai ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 31 Gorffennaf ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi.

Mewn perthynas â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 mae’n ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a phwyllgorau i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgorau) baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin 2018 a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi 2018. Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020, mae’n ofynnol i gyrff o’r fath baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 15 Mehefin ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 15 Medi ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi.

Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae’n ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a phwyllgorau i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgorau) baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 31 Mai ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 31 Gorffennaf ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.