2018 Rhif 91 (Cy. 22)
Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 39 a 58(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 20041, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 39(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol yng Nghymru y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a’r cyrff hynny o gyfrifwyr y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Mawrth 2018.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 neu ar ôl hynny.

Diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 20142.

Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 20142 wedi eu diwygio fel a nodir yn y rheoliadau a ganlyn.

Dehongli3.

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “hysbysiad drwy hysbyseb” (“notice by advertisement”).

Datganiad o gyfrifon4.

Yn rheoliad 8(1)(c) (datganiad o gyfrifon) ar ôl “hwy” mewnosoder “, ac eithrio cyfrifon ar gyfer cronfeydd pensiwn a weinyddir yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 20133”.

Llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiad o gyfrifon – cyrff perthnasol mwy5.

(1)

Yn rheoliad 10 (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiad o gyfrifon)—

(a)

ym mharagraff (1), yn lle “30 Mehefin” rhodder “31 Mai”;

(b)

ym mharagraff (2), yn lle “30 Medi” rhodder “31 Gorffennaf”.

(2)

Ar ôl rheoliad 10 mewnosoder—

“Addasiadau ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 201810A.

Mewn perthynas â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018, mae rheoliad 10 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)

mae paragraff (1) i’w ddarllen fel petai “30 Mehefin” wedi ei roi yn lle “31 Mai”;

(b)

mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “30 Medi” wedi ei roi yn lle “31 Gorffennaf”.

Addasiadau ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ar gyfer y blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 202010B.

(1)

Mae’r addasiadau a nodir yn y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â chyfrifon cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(2)

Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020 mae rheoliad 10 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)

mae paragraff (1) i’w ddarllen fel petai “15 Mehefin” wedi ei roi yn lle “31 Mai”;

(b)

mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “15 Medi” wedi ei roi yn lle “31 Gorffennaf”.”

Hysbysiad o hawliau cyhoeddus6.

Yn rheoliad 12(1) (hysbysiad o hawliau cyhoeddus), yn lle “hysbysu drwy hysbyseb ac ar ei wefan am” rhodder “arddangos ar ei wefan ac mewn o leiaf un lle amlwg yn ei ardal, hysbysiad sy’n cynnwys”.

Hysbysiad o orffen yr archwiliad7.

Yn rheoliad 13 (hysbysiad o orffen yr archwiliad), yn lle “hysbysu drwy hysbyseb ac ar ei wefan” rhodder “arddangos ar ei wefan ac mewn o leiaf un lle amlwg yn ei ardal, hysbysiad”.

Llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau cyfrifyddu – cyrff perthnasol llai8.

(1)

Yn rheoliad 15(5)(b) (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau cyfrifyddu), yn lle “lle neu leoedd amlwg” rhodder “o leiaf un lle amlwg”.

(2)

Ar ôl rheoliad 15 (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau cyfrifyddu) mewnosoder—

“Addasiadau ar gyfer pwyllgorau cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol15A.

(1)

Mae’r addasiadau a nodir yn y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â chyfrifon pwyllgor i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgor).

(2)

Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020, mae rheoliad 15 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)

mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “15 Mehefin” wedi ei roi yn lle “30 Mehefin”;

(b)

mae paragraff (5) i’w ddarllen fel petai “15 Medi” wedi ei roi yn lle “30 Medi”.

(3)

Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae rheoliad 15 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)

mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “31 Mai” wedi ei roi yn lle “30 Mehefin”;

(b)

mae paragraff (5) i’w ddarllen fel petai “31 Gorffennaf” wedi ei roi yn lle “30 Medi”.”

Hysbysiad o hawliau cyhoeddus9.

Yn rheoliad 17(1) (hysbysiad o hawliau cyhoeddus) yn lle “lle neu leoedd amlwg” rhodder “o leiaf un lle amlwg”.

Hysbysiad o orffen yr archwiliad10.

Yn rheoliad 18 (hysbysiad o orffen yr archwiliad) yn lle “lle neu leoedd amlwg” rhodder “o leiaf un lle amlwg”.

Archwiliad eithriadol11.

Yn rheoliad 28 (archwiliad eithriadol), yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1)

Pan fydd Archwilydd Cyffredinol Cymru, o dan adran 37 o Ddeddf 20044, yn cynnal archwiliad eithriadol o gyfrifon corff perthnasol, rhaid i’r corff arddangos hysbysiad ar ei wefan ac mewn o leiaf un lle amlwg yn ardal y corff, ynghylch hawl unrhyw etholwr llywodraeth leol yn yr ardal y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi i wrthwynebu unrhyw un neu ragor o’r cyfrifon hynny.”
Alun Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 39 a 58(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“Deddf 2004”) ac maent yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).

Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chyfrifon ac archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae’n ofynnol archwilio eu cyfrifon yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 2004. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2014 mewn tri chyswllt.

Mae Rheoliadau 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff perthnasol mwy gyhoeddi hysbysiadau penodol mewn papurau newydd lleol. Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofyniad hwnnw ac yn gosod gofyniad yn ei le i arddangos hysbysiad mewn o leiaf un lle amlwg yn ardal y corff.

Mae rheoliad 4 yn dileu’r gofyniad i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol gynnwys, yn eu datganiad o gyfrifon, y cyfrifon ar gyfer cronfeydd pensiwn a weinyddir yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013.

O dan Reoliadau 2014, mae’n ofynnol i gyrff llywodraeth leol baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi. Mae rheoliadau 5 ac 8 yn newid yr amserlen i gyrff llywodraeth leol baratoi a chyhoeddi eu datganiad o gyfrifon fel a ganlyn.

Mewn perthynas â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018, mae’n ofynnol i awdurdodau tân ac achub, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin 2018’ a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi 2018’. Mewn perthynas â blwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 neu ar ôl hynny, mae’n ofynnol i gyrff o’r fath baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 31 Mai ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 31 Gorffennaf ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi.

Mewn perthynas â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 mae’n ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a phwyllgorau i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgorau) baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin 2018 a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi 2018. Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020, mae’n ofynnol i gyrff o’r fath baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 15 Mehefin ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 15 Medi ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi.

Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae’n ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a phwyllgorau i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgorau) baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 31 Mai ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 31 Gorffennaf ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.