NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Ran 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 3 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diwygio adrannau 18, 19 ac 20 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Effaith y diwygiadau hyn yw egluro’r ffordd y caiff y darpariaethau presennol eu gweithredu mewn cysylltiad â gallu Gweinidogion Cymru i ddyroddi fframweithiau prentisiaeth.