Ymgymeriadau7
1
Rhaid i’r hawlydd roi’r ymgymeriadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(b) i ACC cyn i’r hawlydd wneud yr hawliad y gwnaed y trefniadau talu’n ôl ar ei gyfer, neu ar yr un pryd â’r hawliad.
2
Rhaid i’r ymgymeriadau fod yn ysgrifenedig, rhaid i’r hawlydd eu llofnodi a’u dyddio, a rhaid iddynt fod i’r perwyl—
a
ar ddyddiad yr ymgymeriadau, fod yr hawlydd yn gallu nodi enwau a chyfeiriadau’r cwsmeriaid hynny y mae’r hawlydd wedi talu’n ôl iddynt neu y mae’r hawlydd yn bwriadu talu’n ôl iddynt;
b
y bydd yr hawlydd yn cymhwyso’r swm perthnasol yn ei gyfanrwydd, heb unrhyw ddidyniad ar ffurf ffi neu dâl na fel arall, i dalu’n ôl i gwsmeriaid o’r fath yn ddim hwyrach na 90 o ddiwrnodau ar ôl i’r hawlydd gael y swm hwnnw (ac eithrio i’r graddau y mae’r hawlydd eisoes wedi talu’n ôl iddynt);
c
y bydd yr hawlydd yn cymhwyso unrhyw log a dalwyd i’r hawlydd ar y swm perthnasol yn llwyr i dalu’n ôl i gwsmeriaid o’r fath yn ddim hwyrach na 90 o ddiwrnodau ar ôl i’r hawlydd gael y llog hwnnw;
d
y bydd yr hawlydd yn ad-dalu i ACC, heb archiad, y cyfan o’r swm perthnasol neu unrhyw ran ohono a ad-dalwyd i’r hawlydd neu o unrhyw log a dalwyd i’r hawlydd y mae’r hawlydd yn methu â’i gymhwyso yn unol â’r ymgymeriadau a grybwyllir yn is-baragraffau (b) ac (c), o fewn 30 o ddiwrnodau i ddiwedd y cyfnod o 90 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn yr is-baragraffau hynny; ac
e
y bydd yr hawlydd yn cadw’r cofnodion a ddisgrifir yn rheoliad 6.
3
Rhaid i’r hawlydd gyflwyno ymgymeriad diwygiedig (i adlewyrchu’r diwygiad) i ACC o fewn 14 o ddiwrnodau i’r adeg—
a
y mae’r hawlydd yn diwygio hawliad o dan adran 71(1) o’r Ddeddf; neu
b
y mae ACC yn diwygio hawliad o dan adran 75(2)(b) o’r Ddeddf.