2018 Rhif 88 (Cy. 21)
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 66, 69 a 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016;
ystyr “hawliad” (“claim”) yw hawliad a wneir o dan adran 63(2) o’r Ddeddf;
ystyr “swm perthnasol” (“relevant amount”) yw’r rhan honno o swm hawliad (a allai fod y swm cyfan) y mae’r hawlydd wedi ei thalu’n ôl neu’n bwriadu ei thalu’n ôl i gwsmeriaid; ac
ystyr “trefniadau talu’n ôl” (“reimbursement arrangements”) yw unrhyw drefniadau at ddibenion hawliad—
- a
a wneir gan hawlydd at ddiben sicrhau na chaiff yr hawlydd ei gyfoethogi’n annheg yn sgil ad-dalu unrhyw swm yn unol â’r hawliad; a
- b
sy’n darparu ar gyfer talu’n ôl i bersonau (“cwsmeriaid”) sydd, at ddibenion ymarferol, wedi ysgwyddo holl gost neu ran o gost y taliad gwreiddiol o’r swm hwnnw i ACC.
- a
Trefniadau talu’n ôl – cyffredinol3
At ddibenion adran 64 o’r Ddeddf (gwrthod hawliadau am ryddhad oherwydd cyfoethogi anghyfiawn) rhaid diystyru trefniadau talu’n ôl a wneir gan hawlydd ac eithrio pan fônt—
a
yn cynnwys y darpariaethau a ddisgrifir yn rheoliad 4; a
b
yn cael eu hategu gan yr ymgymeriadau a ddisgrifir yn rheoliad 7.
Trefniadau talu’n ôl – y darpariaethau sydd i’w cynnwys4
Y darpariaethau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) yw—
a
y bydd y talu’n ôl y mae’r trefniadau’n darparu ar ei gyfer wedi ei gwblhau yn ddim hwyrach na 90 o ddiwrnodau ar ôl yr ad-daliad y mae’n ymwneud ag ef;
b
na wneir unrhyw ddidyniad o’r swm perthnasol ar ffurf ffi neu dâl (ym mha fodd bynnag y’i mynegir neu y rhoddir effaith iddi neu iddo);
c
y bydd y talu’n ôl yn cael ei wneud mewn arian parod neu ar ffurf siec yn unig neu, gyda chytundeb yr hawlydd, drwy drosglwyddiad electronig;
d
y bydd yr hawlydd yn ad-dalu i ACC unrhyw ran o’r swm perthnasol nad yw wedi ei thalu’n ôl erbyn yr adeg a grybwyllir ym mharagraff (a);
e
y bydd yr hawlydd hefyd yn trin unrhyw log a delir gan ACC ar unrhyw swm perthnasol a ad-delir gan ACC yn yr un modd ag y mae’r swm perthnasol i’w drin o dan baragraffau (a) a (b); ac
f
y bydd yr hawlydd yn cadw’r cofnodion a ddisgrifir yn rheoliad 6.
Ad-daliadau i ACC5
Rhaid i’r hawlydd, heb archiad ymlaen llaw, wneud unrhyw ad-daliad i ACC y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei wneud yn rhinwedd rheoliad 4(d) ac (e) o fewn 30 o ddiwrnodau i ddiwedd y cyfnod o 90 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn rheoliad 4(a).
Cofnodion6
1
Rhaid i’r hawlydd gadw cofnodion o’r materion a ganlyn—
a
enwau a chyfeiriadau’r cwsmeriaid hynny y mae’r hawlydd wedi talu’n ôl iddynt neu y mae’r hawlydd yn bwriadu talu’n ôl iddynt;
b
y cyfanswm a dalwyd yn ôl i bob cwsmer o’r fath, gan gynnwys ym mhob achos dderbynebau gan y rheini y talwyd yn ôl iddynt yn cydnabod faint a dalwyd yn ôl ac yn rhoi’r dyddiad y talwyd yn ôl iddynt;
c
swm y llog a gynhwyswyd ym mhob cyfanswm a dalwyd yn ôl i bob cwsmer; a
d
dyddiad pob achos o dalu’n ôl.
2
Mae adran 69(2) o’r Ddeddf yn gymwys i gofnodion a gedwir o dan baragraff (1) fel y mae’n gymwys i gofnodion a gedwir o dan yr adran honno.
Ymgymeriadau7
1
Rhaid i’r hawlydd roi’r ymgymeriadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(b) i ACC cyn i’r hawlydd wneud yr hawliad y gwnaed y trefniadau talu’n ôl ar ei gyfer, neu ar yr un pryd â’r hawliad.
2
Rhaid i’r ymgymeriadau fod yn ysgrifenedig, rhaid i’r hawlydd eu llofnodi a’u dyddio, a rhaid iddynt fod i’r perwyl—
a
ar ddyddiad yr ymgymeriadau, fod yr hawlydd yn gallu nodi enwau a chyfeiriadau’r cwsmeriaid hynny y mae’r hawlydd wedi talu’n ôl iddynt neu y mae’r hawlydd yn bwriadu talu’n ôl iddynt;
b
y bydd yr hawlydd yn cymhwyso’r swm perthnasol yn ei gyfanrwydd, heb unrhyw ddidyniad ar ffurf ffi neu dâl na fel arall, i dalu’n ôl i gwsmeriaid o’r fath yn ddim hwyrach na 90 o ddiwrnodau ar ôl i’r hawlydd gael y swm hwnnw (ac eithrio i’r graddau y mae’r hawlydd eisoes wedi talu’n ôl iddynt);
c
y bydd yr hawlydd yn cymhwyso unrhyw log a dalwyd i’r hawlydd ar y swm perthnasol yn llwyr i dalu’n ôl i gwsmeriaid o’r fath yn ddim hwyrach na 90 o ddiwrnodau ar ôl i’r hawlydd gael y llog hwnnw;
d
y bydd yr hawlydd yn ad-dalu i ACC, heb archiad, y cyfan o’r swm perthnasol neu unrhyw ran ohono a ad-dalwyd i’r hawlydd neu o unrhyw log a dalwyd i’r hawlydd y mae’r hawlydd yn methu â’i gymhwyso yn unol â’r ymgymeriadau a grybwyllir yn is-baragraffau (b) ac (c), o fewn 30 o ddiwrnodau i ddiwedd y cyfnod o 90 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn yr is-baragraffau hynny; ac
e
y bydd yr hawlydd yn cadw’r cofnodion a ddisgrifir yn rheoliad 6.
3
Rhaid i’r hawlydd gyflwyno ymgymeriad diwygiedig (i adlewyrchu’r diwygiad) i ACC o fewn 14 o ddiwrnodau i’r adeg—
a
y mae’r hawlydd yn diwygio hawliad o dan adran 71(1) o’r Ddeddf; neu
b
y mae ACC yn diwygio hawliad o dan adran 75(2)(b) o’r Ddeddf.
Cosbau8
1
Mae’r darpariaethau yn adrannau 143 i 145 o’r Ddeddf (cosbau sy’n ymwneud â chadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl) yn gymwys i fethiant i gydymffurfio â rheoliad 6 fel y maent yn gymwys i fethiant i gydymffurfio ag adran 69 o’r Ddeddf.
2
Mae hawlydd sy’n methu â chydymffurfio â rheoliad 5 yn agored i gosb o 100% o swm unrhyw ad-daliad y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei wneud i ACC yn rhinwedd rheoliad 4(d) ac (e).
3
Mae adrannau 125 i 128 o’r Ddeddf yn gymwys i gosb o dan baragraff (2) fel y maent yn gymwys i gosb o dan adran 122 o’r Ddeddf.
4
Nid yw adran 157A o’r Ddeddf (llog taliadau hwyr ar gosbau) yn gymwys i gosb o dan baragraff (2).
5
Mae adran 154 o’r Ddeddf (talu cosbau) yn gymwys i gosb o dan y rheoliad hwn.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)