Mae Rhan 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn rhoi swyddogaethau i Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) mewn perthynas â phersonau y mae’n ofynnol iddynt gofrestru yn y gofrestr y maeʼr Cyngor yn ei chynnal yn unol ag adran 9 oʼr Ddeddf honno (“Personau Cofrestredig”). Maeʼr categorïau o Bersonau Cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
Mae Atodlen 1 i Ddeddf 2014 yn darparu y bydd gan y Cyngor 14 o aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru. Rhaid i saith o’r aelodau hynny gael eu penodi o blith enwebeion sefydliadau a nodir mewn Rheoliadau (“Cyrff Enwebu”). Mae’r rhestr o’r Cyrff Enwebu wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2014 er mwyn hepgor paragraff 1 (y cofnod ar gyfer Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (Cymru)) a pharagraff 7 (y cofnod ar gyfer Cymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr). Mae’r Undebau hynny wedi uno bellach i greu undeb newydd sef yr Undeb Addysg Cenedlaethol. Felly, er mwyn adlewyrchu’r broses uno honno mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol wedi ei ychwanegu at y rhestr o’r cyrff a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2014 (rheoliad 2(a)).
Diwygiwyd y categorïau o Bersonau Cofrestredig gan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 er mwyn cynnwys gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith (“Categorïau Newydd”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2014 er mwyn caniatáu i gyrff sy’n cynrychioli’r Categorïau Newydd o Bersonau Cofrestredig enwebu personau i ddod yn aelodau o’r Cyngor. Yn unol â hynny mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at y rhestr o Gyrff Enwebu y canlynol (rheoliad 2(b))—
Council for Wales of Voluntary Youth Services Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol;
Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru;
National Training Federation for Wales Ltd; a
Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.