- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
17 Gorffennaf 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Gorffennaf 2018
Yn dod i rym
9 Awst 2018
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2(2) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1) a chan baragraff 4 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Awst 2018.
2. Mae Atodlen 2 i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn Rhan 1—
(i)yn lle paragraff 1 rhodder—
“1. Yr Undeb Addysg Cenedlaethol.”; a
(ii)hepgorer paragraff 7; a
(b)yn Rhan 2, ar ôl paragraff 27 mewnosoder—
“28. Council for Wales of Voluntary Youth Services Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol(3).
29. Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru(4).
30. National Training Federation for Wales Ltd(5).
31. Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru(6).”
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn rhoi swyddogaethau i Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) mewn perthynas â phersonau y mae’n ofynnol iddynt gofrestru yn y gofrestr y maeʼr Cyngor yn ei chynnal yn unol ag adran 9 oʼr Ddeddf honno (“Personau Cofrestredig”). Maeʼr categorïau o Bersonau Cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
Mae Atodlen 1 i Ddeddf 2014 yn darparu y bydd gan y Cyngor 14 o aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru. Rhaid i saith o’r aelodau hynny gael eu penodi o blith enwebeion sefydliadau a nodir mewn Rheoliadau (“Cyrff Enwebu”). Mae’r rhestr o’r Cyrff Enwebu wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2014 er mwyn hepgor paragraff 1 (y cofnod ar gyfer Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (Cymru)) a pharagraff 7 (y cofnod ar gyfer Cymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr). Mae’r Undebau hynny wedi uno bellach i greu undeb newydd sef yr Undeb Addysg Cenedlaethol. Felly, er mwyn adlewyrchu’r broses uno honno mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol wedi ei ychwanegu at y rhestr o’r cyrff a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2014 (rheoliad 2(a)).
Diwygiwyd y categorïau o Bersonau Cofrestredig gan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 er mwyn cynnwys gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith (“Categorïau Newydd”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2014 er mwyn caniatáu i gyrff sy’n cynrychioli’r Categorïau Newydd o Bersonau Cofrestredig enwebu personau i ddod yn aelodau o’r Cyngor. Yn unol â hynny mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at y rhestr o Gyrff Enwebu y canlynol (rheoliad 2(b))—
(a)Council for Wales of Voluntary Youth Services Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol;
(b)Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru;
(c)National Training Federation for Wales Ltd; a
(d)Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Rhif cwmni cofrestredig 05444248.
Mae Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru yn cynnwys prif swyddog ieuenctid o bob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r corff yn ceisio darparu cyngor ar ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau ieuenctid yn strategol yng Nghymru.
Rhif cwmni cofrestredig 04594179.
Mae Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru yn gorff sy’n ceisio sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant ar gyfer gweithwyr ieuenctid o ansawdd uchel, a’u bod yn berthnasol i anghenion cyflogwyr, gweithwyr ieuenctid eu hunain a’r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: