Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Awst 2018.
Diwygio
2. Mae Atodlen 2 i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn Rhan 1—
(i)yn lle paragraff 1 rhodder—
“1. Yr Undeb Addysg Cenedlaethol.”; a
(ii)hepgorer paragraff 7; a
(b)yn Rhan 2, ar ôl paragraff 27 mewnosoder—
“28. Council for Wales of Voluntary Youth Services Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol(2).
29. Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru(3).
30. National Training Federation for Wales Ltd(4).
31. Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru(5).”
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2018