Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr llawnamser sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2018/2019.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd benthyciwr dros fenthyciad at gostau byw o dan amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei gael.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.