Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 813 (Cy. 164)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

3 Gorffennaf 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Gorffennaf 2018

Coming into force

1 Awst 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1LL+CENWI A CHYCHWYN

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018LL+C

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

3.  Yn rheoliad 46(3)(c), ar ôl “incwm aelwyd” mewnosoder “sy’n fwy na £18,370”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

4.  Yn lle rheoliad 56 rhodder—

Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig

56.(1) Pan fo myfyriwr llawnamser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).

(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Nodi swm—

(a)y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46, a

(b)y grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 45.

Cam 2

Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.

Cam 3

Nodi swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 8, pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r cymorth byw yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)Colofn 3 yn pennu symiau cymwys y cymorth byw ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 8

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Lleoliad y myfyriwr

Colofn 3

Swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr cymorth arbennig

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018Byw gartref£7,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,000

Cam 4

Pa un bynnag yw’r mwyaf o—

(a)y swm a nodir yng Ngham 3, neu

(b)symiau’r grant a nodir yng Ngham 1 plws isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel y’i pennir drwy gyfeirio at Dabl 8A,

yw uchafswm y cymorth byw sydd ar gael i’r myfyriwr.

Cam 5

Cyfrifo uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth drwy ddidynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 2 o uchafswm y cymorth byw a nodir yng Ngham 4.

Cam 6

Didynnu swm unrhyw grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr nad yw’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennig o uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth a gyfrifir yng Ngham 5.

Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.

(3) Yn Nhabl 8A—

(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;

(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)mae Colofn 3 yn pennu isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 8A

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Lleoliad y myfyriwr

Colofn 3

Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018Byw gartref£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,000

(4) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

5.  Yn rheoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), ar y diwedd mewnosoder—

(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 58A.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

6.  Ar ôl rheoliad 58 mewnosoder—

Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig

58A.(1) Pan fo myfyriwr rhan-amser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).

(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.

Cam 2

Cyfrifo swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 10A, pan fo Colofn 2 o’r tabl yn pennu swm y cymorth byw sy’n gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd a bennir yng Ngholofn 1.

Tabl 10A
Colofn 1Colofn 2
Blwyddyn academaiddSwm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018£6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Cam 3

Didynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 1 o swm cymwys y cymorth byw a nodir yng Ngham 2.

Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.

(3) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

7.  Yn rheoliad 81(2) (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)yn achos grant, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau y flwyddyn academaidd, ac, yn achos benthyciad cynhaliaeth, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau tymor y flwyddyn academaidd, sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd yn y naill achos neu’r llall, a

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

8.  Yn rheoliad 93 (cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau a dreulir yn y carchar), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

9.  Yn rheoliad 94 (cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau eraill o absenoldeb), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

10.  Yn rheoliad 95 (taliadau pan fo’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu), yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd pan fo cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

3rd Gorffennaf 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Mae Rheoliadau 2018 hefyd yn darparu cymorth ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018 ac sy’n cael eu troi wedi hynny o gyrsiau llawnamser i gyrsiau rhan-amser neu o gyrsiau rhan-amser i gyrsiau llawnamser ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 46(3)(c) o Reoliadau 2018 fel bod uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy, pan fo incwm aelwyd myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, wedi ei ostwng £1 am bob £5.750 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle ac eithrio Llundain.

Mae rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 56 newydd yn lle rheoliad 56 o Reoliadau 2018. Mae’r rheoliad newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod paragraff newydd yn rheoliad 58 o Reoliadau 2018 o ganlyniad i reoliad 6. Mae rheoliad 6 yn darparu i reoliad newydd gael ei fewnosod yn Rheoliadau 2018, sef rheoliad 58A. Mae rheoliad 58A yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.

Mae rheoliadau 7, 8, 9 a 10 yn diwygio yn eu trefn reoliadau 81, 93, 94 a 95 o Reoliadau 2018 sy’n ymdrin â chyfrifo’r hawlogaeth i gael benthyciad cynhaliaeth pan fo myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ond, ar adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, yn absennol o’r cwrs neu fod ei gyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76; O.S. 2013/1881; a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i gael y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae is-adrannau (a), (c) a (k) yn cael eu harfer ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).