Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018
RHAN 1ENWI A CHYCHWYN
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2018.
RHAN 2DIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
2.
3.
Yn rheoliad 46(3)(c), ar ôl “incwm aelwyd” mewnosoder “sy’n fwy na £18,370”.
4.
“Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig56.
(1)
Pan fo myfyriwr llawnamser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).
(2)
Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—
Cam 1
Nodi swm—
(a)
y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46, a
(b)
y grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 45.
Cam 2
Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.
Cam 3
Nodi swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 8, pan fo—
(a)
Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r cymorth byw yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b)
Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)
Colofn 3 yn pennu symiau cymwys y cymorth byw ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
Tabl 8
Colofn 1
Blwyddyn academaidd
Colofn 2
Lleoliad y myfyriwr
Colofn 3
Swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr cymorth arbennig
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018
Byw gartref
£7,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£11,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£9,000
Cam 4
Pa un bynnag yw’r mwyaf o—
(a)
y swm a nodir yng Ngham 3, neu
(b)
symiau’r grant a nodir yng Ngham 1 plws isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel y’i pennir drwy gyfeirio at Dabl 8A,
yw uchafswm y cymorth byw sydd ar gael i’r myfyriwr.
Cam 5
Cyfrifo uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth drwy ddidynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 2 o uchafswm y cymorth byw a nodir yng Ngham 4.
Cam 6
Didynnu swm unrhyw grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr nad yw’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennig o uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth a gyfrifir yng Ngham 5.
Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.
(3)
Yn Nhabl 8A—
(a)
mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b)
mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)
mae Colofn 3 yn pennu isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
Tabl 8A
Colofn 1
Blwyddyn academaidd
Colofn 2
Lleoliad y myfyriwr
Colofn 3
Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018
Byw gartref
£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£4,000
(4)
Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.”
5.
“(3)
Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 58A.”
6.
“Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig58A.
(1)
Pan fo myfyriwr rhan-amser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).
(2)
Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—
Cam 1
Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.
Cam 2
Cyfrifo swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 10A, pan fo Colofn 2 o’r tabl yn pennu swm y cymorth byw sy’n gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd a bennir yng Ngholofn 1.
Tabl 10A
Colofn 1
Colofn 2
Blwyddyn academaidd
Swm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018
£6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Cam 3
Didynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 1 o swm cymwys y cymorth byw a nodir yng Ngham 2.
Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.
(3)
Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.”
7.
“(a)
yn achos grant, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau y flwyddyn academaidd, ac, yn achos benthyciad cynhaliaeth, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau tymor y flwyddyn academaidd, sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd yn y naill achos neu’r llall, a”
8.
“(2)
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor.”
9.
“(2)
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs.”
10.
“(1)
Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd pan fo cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.”
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Mae Rheoliadau 2018 hefyd yn darparu cymorth ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018 ac sy’n cael eu troi wedi hynny o gyrsiau llawnamser i gyrsiau rhan-amser neu o gyrsiau rhan-amser i gyrsiau llawnamser ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 46(3)(c) o Reoliadau 2018 fel bod uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy, pan fo incwm aelwyd myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, wedi ei ostwng £1 am bob £5.750 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle ac eithrio Llundain.
Mae rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 56 newydd yn lle rheoliad 56 o Reoliadau 2018. Mae’r rheoliad newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod paragraff newydd yn rheoliad 58 o Reoliadau 2018 o ganlyniad i reoliad 6. Mae rheoliad 6 yn darparu i reoliad newydd gael ei fewnosod yn Rheoliadau 2018, sef rheoliad 58A. Mae rheoliad 58A yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.
Mae rheoliadau 7, 8, 9 a 10 yn diwygio yn eu trefn reoliadau 81, 93, 94 a 95 o Reoliadau 2018 sy’n ymdrin â chyfrifo’r hawlogaeth i gael benthyciad cynhaliaeth pan fo myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ond, ar adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, yn absennol o’r cwrs neu fod ei gyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.