NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Mae Rheoliadau 2018 hefyd yn darparu cymorth ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018 ac sy’n cael eu troi wedi hynny o gyrsiau llawnamser i gyrsiau rhan-amser neu o gyrsiau rhan-amser i gyrsiau llawnamser ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 46(3)(c) o Reoliadau 2018 fel bod uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy, pan fo incwm aelwyd myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, wedi ei ostwng £1 am bob £5.750 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle ac eithrio Llundain.

Mae rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 56 newydd yn lle rheoliad 56 o Reoliadau 2018. Mae’r rheoliad newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod paragraff newydd yn rheoliad 58 o Reoliadau 2018 o ganlyniad i reoliad 6. Mae rheoliad 6 yn darparu i reoliad newydd gael ei fewnosod yn Rheoliadau 2018, sef rheoliad 58A. Mae rheoliad 58A yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.

Mae rheoliadau 7, 8, 9 a 10 yn diwygio yn eu trefn reoliadau 81, 93, 94 a 95 o Reoliadau 2018 sy’n ymdrin â chyfrifo’r hawlogaeth i gael benthyciad cynhaliaeth pan fo myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ond, ar adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, yn absennol o’r cwrs neu fod ei gyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.