2018 Rhif 768 (Cy. 155)
Trethi, Cymru

Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Coming into force
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf 2018.

Diwygio Deddf Enillion Troseddau 20022.

Mae Deddf Enillion Troseddau 20022 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)

yn adran 303C(9)(d)3 (swyddog perthnasol at ddibenion Pennod 3A), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(b)

yn adran 303E(4)(f) (uwch-swyddog at ddibenion cymeradwyaeth ymlaen llaw i gynnal chwiliadau), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(c)

yn adran 303L(5)(d) (personau penodedig - cadwad pellach o eiddo yr ymafaeliwyd ynddo), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(d)

yn adran 303O(2)(d) (personau penodedig - fforffedu eiddo), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(e)

yn adran 303Z1(6)4 (dehongli at ddibenion Pennod 3B), yn y diffiniad o “enforcement officer”, ym mharagraff (d), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(f)

yn adran 303Z2(4)(e) (uwch-swyddog at ddibenion Pennod 3B), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(g)

yn adran 303Z14(3)(d) (personau penodedig at ddibenion ceisiadau fforffedu cyfrif), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(h)

yn adran 336D(7)(h)5 (uwch-swyddog at ddibenion adran 336A (pŵer y llys i estyn y cyfnod moratoriwm)), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(i)

yn adran 378(3C)(c)6 (swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(j)

yn adran 378(3D)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(k)

yn adran 378(3E)(c) (swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”; ac

(l)

yn adran 378(3F)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.

Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 (p. 29) er mwyn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad ag adran 186 (enillion troseddau) o’r Ddeddf ac ymchwilwyr ariannol achrededig Awdurdod Cyllid Cymru yn arfer y pwerau sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.