2018 Rhif 766 (Cy. 153)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 29(3) a (5)1, 408(1)2, 537(1)3, 537A(1), (2) a (4)4, a 569(4) a (5)5 o Ddeddf Addysg 1996, ac yn adrannau 19 a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 19976, ac yn adrannau 21(3), 30(1) a (2), 1317 a 210 o Ddeddf Addysg 20028, ac yn adrannau 22(3) a (4) a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 20119, ac yn adrannau 87 a 98 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 201310, ac sy’n arferadwy ganddynt hwy11, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru.

Yn unol ag adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol yng Nghymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, cyrff sy’n cynrychioli buddiannau cyrff llywodraethu yng Nghymru a chyrff sy’n cynrychioli buddiannau athrawon yng Nghymru yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol.