(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwahardd defnyddio microbelenni fel cynhwysyn wrth weithgynhyrchu cynhyrchion gofal personol i’w rinsio i ffwrdd ac yn gwahardd gwerthu unrhyw gynhyrchion o’r fath sy’n cynnwys microbelenni (rheoliad 3). Mae torri’r gwaharddiad hwn yn drosedd (rheoliad 3). Mae diffiniadau o “microbelen” a “cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd” wedi eu cynnwys yn rheoliad 2. Bydd y gwaharddiad ar weithgynhyrchu a gwerthu unrhyw gynhyrchion o’r fath yn dod i rym ar 30 Mehefin 2018.
Mae cyfundrefn sancsiynau sifil yn cael ei chyflwyno hefyd i alluogi’r rheoleiddiwr i osod ystod o sancsiynau sifil (rheoliad 7 a’r Atodlen). Mae’r rhain yn cynnwys cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau stop. Caiff y rheoleiddiwr hefyd dderbyn ymgymeriadau gorfodaeth. Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sy’n ymwneud â’r sancsiynau hyn a’r mecanweithiau apelio sydd ar gael. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad stop yn drosedd (paragraff 16 o’r Atodlen). Mae’r holl apelau sy’n ymwneud â sancsiynau sifil i’w cyflwyno i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Mae rheoliad 8 yn rhoi pwerau i swyddogion gorfodaeth gynnal ymchwiliadau at ddiben awdurdodedig (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2).
Mae rheoliad 9 yn rhoi pwerau mynediad i swyddogion gorfodaeth i gynnal ymchwiliad at ddiben awdurdodedig (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2).
Mae rheoliad 10 yn creu troseddau sy’n gysylltiedig â phwerau swyddogion gorfodaeth yn rheoliadau 8 a 9.
Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ynghylch camau gorfodaeth a gymerir gan y rheoleiddiwr, ac mae rheoliadau 12 a 13 yn darparu bod rhaid llunio canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio sancsiynau sifil ac ymgynghori arnynt, ac yn pennu’r wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn canllawiau o’r fath.
Mae rheoliad 14 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adolygu’r Rheoliadau.
Mae rheoleiddwyr yn gallu adennill costau gorfodaeth (paragraff 27 o’r Atodlen) yn achos cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau stop.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau hyn ar ffurf ddrafft yn unol â Chyfarwyddeb (EU) 2015/1535 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 9 Medi 2015 a oedd yn gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes rheoliadau technegol a rheolau sy’n ymwneud â gwasanaethau’r Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L 241, 17.9.2015, t. 1).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.