Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 760 (Cy. 151)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018

Gwnaed

19 Mehefin 2018

Yn dod i rym

30 Mehefin 2018

Mae Gweinidogion Cymru—

(a)wedi cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette a’r Western Mail fel sy’n ofynnol gan adran 140(6)(b) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(1) (“Deddf 1990”) ac wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â’r hysbysiad hwnnw;

(b)wedi ymgynghori yn unol ag adrannau 59 a 60 o Ddeddf Gorfodaeth Reoleiddiol a Sancsiynau 2008(2) (“Deddf 2008”) ac wedi eu bodloni (yn unol ag adran 66 o’r Ddeddf honno) y bydd awdurdodau lleol (sef y rheoleiddiwr at ddiben y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn;

(c)yn ystyried ei bod yn briodol i wneud y Rheoliadau hyn at ddiben atal y sylwedd neu’r eitemau a bennir ynddynt rhag achosi llygredd amgylcheddol a niwed i iechyd anifeiliaid.

Yn unol ag adran 62(3) o Ddeddf 2008, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’u cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 140(1)(b) ac (c), (3)(c) a (d), a (9) o Ddeddf 1990(3) ac adrannau 36, 42, 46, 48, 49, 50, 52 i 55 a 62(2) o Ddeddf 2008(4).

(2)

2008 p. 13. At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae i “y rheoleiddiwr” yr ystyr a roddir gan reoliad 2, yn hytrach na’r ystyr a roddir i “the regulator” gan adran 37 o Ddeddf 2008.

(3)

Diwygiwyd adran 140(3)(c) gan O.S. 1999/1108. Yn rhinwedd erthygl 2 o O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddo, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, mae’r pwerau o dan adran 140 bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.

(4)

Diwygiwyd adran 36(2) gan adran 21(1) a (2)(f) o Ddeddf Menter 2016; diwygiwyd adran 42(6) gan O.S. 2015/664; diwygiwyd adran 49(1) gan O.S. 2015/664.