2018 Rhif 760 (Cy. 151)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru—

a

wedi cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette a’r Western Mail fel sy’n ofynnol gan adran 140(6)(b) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19901 (“Deddf 1990”) ac wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â’r hysbysiad hwnnw;

b

wedi ymgynghori yn unol ag adrannau 59 a 60 o Ddeddf Gorfodaeth Reoleiddiol a Sancsiynau 20082 (“Deddf 2008”) ac wedi eu bodloni (yn unol ag adran 66 o’r Ddeddf honno) y bydd awdurdodau lleol (sef y rheoleiddiwr at ddiben y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn;

c

yn ystyried ei bod yn briodol i wneud y Rheoliadau hyn at ddiben atal y sylwedd neu’r eitemau a bennir ynddynt rhag achosi llygredd amgylcheddol a niwed i iechyd anifeiliaid.

Yn unol ag adran 62(3) o Ddeddf 2008, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’u cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 140(1)(b) ac (c), (3)(c) a (d), a (9) o Ddeddf 19903 ac adrannau 36, 42, 46, 48, 49, 50, 52 i 55 a 62(2) o Ddeddf 20084.