Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Gorffennaf 2018.
(3)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 19902.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20053.
“(a)
“ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997;”.
Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 20074.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 20115.
Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 20166.
Dirymiadau7.
Mae’r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)
(b)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sy’n cyfeirio at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff ac yn diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3.)
Mae angen y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn er mwyn gweithredu Rheoliad y Cyngor (EU) 2017/997 dyddiedig 8 Mehefin 2017 sy’n diwygio Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y nodwedd beryglus HP 14 ‘Ecowenwynig’ (OJ Rhif L 150, 14.6.2017, t. 1).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.