2018 Rhif 721 (Cy. 140)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwastraff, Cymru

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas ag—
(a)
mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu3;
(b)
atal, lleihau a rheoli gwastraff4.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.