Offerynnau Statudol Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gwnaed
22 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mai 2018
Yn dod i rym
30 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at y dibenion o wneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a)adran 2(2) o Ddeddf 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(3);
(b)adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(4) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(5); ac
(c)adran 10(1) a (3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984(6).
Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973, mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018. Maent yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 30 Mehefin 2018.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
2. Yn y Rheoliadau hyn—
[F1ystyr “cynllun iechyd dofednod” (“poultry health scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n llywodraethu allforio neu symud adar neu wyau deor i’r UE, Gogledd Iwerddon neu wledydd penodedig nad ydynt yn yr UE, a gyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf 2021;]
ystyr “llwyth” (“consignment”) yw nifer o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif filfeddygol neu ddogfen filfeddygol;
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrir yn y gofrestr o filfeddygon a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966(7);
ystyr “Rheoliadau 1964” (“the 1964 Regulations”) yw Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964(8);
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (EEC) 1992(9);
ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995(10);
ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008(11);
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(12);
mae i [F2“safle rheoli ar y ffin” (“border control post”)] yr ystyr a roddir gan reoliad 11 o Reoliadau 2011;
ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru; ac
[F3ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth heblaw Ynysoedd Prydain;]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(2)(b)
F2Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(2)(a)
F3Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (16.12.2022) gan Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (O.S. 2022/1348), rhlau. 1(2), 20
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
2A. Os cyflawnir unrhyw weithgaredd y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn dros gyfnod pan fo ffioedd gwahanol yn gymwys, y ffi sy’n daladwy mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw yw—
(a)pan fo’r gweithgaredd yn cael ei gyflawni fel rhan o gais, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y daw’r cais i law;
(b)fel arall, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y dechreuir y gweithgaredd.]
Diwygiadau Testunol
3. Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy amdano o dan y Rheoliadau hyn ei dynnu’n ôl cyn penderfynu’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd y gyfran honno o unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais hwnnw sy’n rhesymol ym marn Gweinidogion Cymru, o ystyried unrhyw gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
4.—(1) Mae Atodlen 1 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â rheoli Salmonela yn unol â’r rhaglen reoli F6... berthnasol a sefydlwyd gan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor, neu oddi tano, ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd(13).
(2) Yn Atodlen 1—
(a)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros ddaliad dofednod am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 [F7neu golofn 3] o’r Tabl hwnnw;
(b)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 [F8neu golofn 3] o’r Tabl hwnnw; ac
(c)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros heidiau dofednod am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 [F9neu golofn 3] o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 1 yr un ystyr ag yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003.
Diwygiadau Testunol
F5Gair yn rhl. 4 pennawd wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/737), rhlau. 1(3), 5(3); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F6Gair yn rhl. 4(1) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/737), rhlau. 1(3), 5(3); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F7Geiriau yn rhl. 4(2)(a) wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(4)
F8Geiriau yn rhl. 4(2)(b) wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(4)
F9Geiriau yn rhl. 4(2)(c) wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
5.—(1) Mae Atodlen 2 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod(14).
(2) Yn Atodlen 2—
(a)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 [F10neu golofn 3] o’r Tabl hwnnw; a
(b)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn rhl. 5(2)(a) wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
6.—(1) Mae Rheoliadau 2008 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn lle rheoliad 41 rhodder—
“41. Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru fel y darperir gan reoliad 6(3) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018.”
(3) Mae Atodlen 3 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2008; ac yn unol â hynny mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr a gweithredwyr am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 [F11neu golofn 3] o’r Tabl hwnnw.
(4) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 3 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 2008.
Diwygiadau Testunol
F11Geiriau yn rhl. 6(3) wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
7.—(1) Mae Atodlen 4 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â dyroddi trwyddedau neu gymeradwyaethau o dan Reoliadau 1964 neu Reoliadau 1992, a phrofion ac archwiliadau a gynhelir o dan y Rheoliadau hynny.
(2) Yn Atodlen 4 mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, neu gan ddeiliad trwydded neu gymeradwyaeth o’r fath, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 [F12neu golofn 3] o’r Tabl hwnnw.
(3) Yn Atodlen 4 ystyr “canolfan ffrwythloni artiffisial” yw mangre—
(a)y mae trwydded mewn grym mewn cysylltiad â hi o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 1964, neu
(b)sydd wedi ei chymeradwyo o dan reoliad 2(2) neu (3) o Reoliadau 1992.
Diwygiadau Testunol
F12Geiriau yn rhl. 7(2) wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
8.—(1) Mae Atodlen 5 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am weithgareddau mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth neu ddeiliad cymeradwyaeth o dan Reoliadau 1995.
(2) Yn Atodlen 5, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am gymeradwyaeth o dan Reoliadau 1995 am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, neu gan ddeiliaid cymeradwyaeth o’r fath, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 [F13neu golofn 3] o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 5 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 1995.
Diwygiadau Testunol
F13Geiriau yn rhl. 8(2) wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
9.—(1) Mae Atodlen 6 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy pan gynhelir arolygiadau mewn [F15safleoedd rheoli ar y ffin] o lwythi o anifeiliaid byw o drydedd wlad yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 2011.
(2) Yn Atodlen 6—
(a)mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arolygu llwyth o anifeiliaid byw a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;
(b)mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arolygiadau a gynhelir yn ystod cyfnod a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac maent yn daladwy yn ychwanegol at unrhyw ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (a);
(c)mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwiriadau ychwanegol oherwydd peidio â chydymffurfio neu fesurau rheoli ychwanegol gan berson a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac maent yn daladwy yn ychwanegol at unrhyw ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (a).
Diwygiadau Testunol
F14Geiriau yn rhl. 9 pennawd wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(5)
F15Geiriau yn rhl. 9 wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
10. Mae Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013(15) wedi eu dirymu, ac eithrio rheoliadau 1, 4 a 7(1) i (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mai 2018
Rheoliad 4
Diwygiadau Testunol
F16Gair yn Atod. 1 pennawd wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/737), rhlau. 1(3), 5(4); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
Colofn 1 Gweithgaredd | [F17Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | [F18Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
Amser a dreuliwyd yn cael sampl reoli swyddogol i’w harchwilio mewn labordy (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a bennir isod oni phennir fel arall yng ngholofn 2) | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| Amser a dreuliwyd yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72 | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72 |
| Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir dodwy | 41 | 49 |
| Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir neu dyrcwn bridio | 68 | 83 |
| Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir bwyta (brwyliaid) neu haid o dyrcwn pesgi | 95 | 117 |
| Archwilio sampl reoli swyddogol mewn labordy | 18 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)] | 21 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)] |
Diwygiadau Testunol
F17Geiriau yn Atod. 1 Tabl 1 wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(6)(a)(i)
F18Geiriau yn Atod. 1 Tabl 1 wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(6)(a)(ii)
| Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
|---|---|---|
| Gweithgaredd | Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
| Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol i labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy | 86 | 86 |
| Cynnal arolygiadau ar gyfer gwaith sicrhau ansawdd | 688 am bob ymweliad | 1,025 am bob ymweliad |
| Cynnal profion cydweithredol ar gyfer Salmonela fel sy’n ofynnol i gael cymeradwyaeth fel labordy profi, a chadw’r gymeradwyaeth honno | 44 am bob prawf | 44 am bob prawf ] |
Diwygiadau Testunol
F19Atod. 1 Tabl 2 wedi ei amnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(6)(b)
Colofn 1 Gweithgaredd | [F20Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | [F21Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
| Cynnal profion ar saith o samplau llwch a charthion a gymerir o bob haid | 123 | 146 |
| Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar gaeca ac wyffosydd 300 o adar o bob haid | 3,203 | 3,936 |
| Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid | 3,517] | 3,954] |
Diwygiadau Testunol
F20Geiriau yn Atod. 1 Tabl 3 wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(6)(c)(i)
F21Geiriau yn Atod. 1 Tabl 3 wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(6)(c)(ii)
Rheoliad 5
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
Colofn 1 Gweithgaredd | [F22Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | [F23Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a restrir isod, oni phennir fel arall yng ngholofn 2) | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre aelod o’r cynllun iechyd dofednod (“aelod o’r cynllun” yn y Tabl hwn) at ddibenion y gweithgareddau isod | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| Cofrestriad blynyddol fel aelod o gynllun | 82 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) | 108 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
| Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol | 49 | 71 |
| Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol | 62 | 67 |
| Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol | 35 | 39 |
| Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol | 61 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) | 67 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
| Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol | 34 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)] | 39 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)] |
Diwygiadau Testunol
F22Geiriau yn Atod. 2 Tabl 1 wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(7)(a)(i)
F23Geiriau yn Atod. 2 Tabl 1 wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(7)(a)(ii)
Colofn 1 Gweithgaredd | [F24Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
|---|---|
| Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol ar gyfer labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy | 86 |
| Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â bacterioleg Salmonela (pullorum, gallinarum ac arizonae) | 158 am bob prawf |
| Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Salmonela (pullorum, gallinarum) | 310 am bob prawf |
| Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn ieir (gallisepticum) | 310 am bob prawf |
| Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | 280 am bob prawf |
| Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn tyrcwn (gallisepticum a meleagridis) | 310 am bob prawf] |
Diwygiadau Testunol
F24Geiriau yn Atod. 2 Tabl 2 wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(7)(b)
Rheoliad 6
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
Colofn 1 Gweithgaredd | [F25Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | [F26Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny Colofn 3 |
|---|---|---|
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
| Ystyried cais i gymeradwyo anifail buchol o dan reoliadau 7 neu 10 o Reoliadau 2008 i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu ddomestig neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu | 27 | 33 |
| Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2008 i gymeradwyo anifail buchol i’w ddefnyddio mewn [F27canolfan gasglu drwyddedig] | 35 | 44 |
| Ystyried cais am drwydded i weithredu [F28canolfan gwarantin drwyddedig] o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 | 39 | 48 |
| Ystyried cais am drwydded i weithredu [F29canolfan gasglu drwyddedig] neu ddomestig, [F30neu ganolfan storio drwyddedig] neu ddomestig o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 | 37 | 46 |
| Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 2008 | 23 | 28 |
| Cynnal archwiliad rheolaidd o anifail buchol cymeradwy [F31at ddefnydd domestig neu at ddefnydd masnachu ag Aelod-wladwriaeth] o dan reoliad 33 o Reoliadau 2008 | 31] | 38] |
Diwygiadau Testunol
F25Geiriau yn Atod. 3 Tabl wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(8)(b)
F26Geiriau yn Atod. 3 Tabl wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(8)(c)
F27Geiriau yn Atod. 3 Tabl wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(8)(a)(i)
F28Geiriau yn Atod. 3 Tabl wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(8)(a)(ii)
F29Geiriau yn Atod. 3 Tabl wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(8)(a)(iii)(aa)
F30Geiriau yn Atod. 3 Tabl wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(8)(a)(iii)(bb)
F31Geiriau yn Atod. 3 Tabl wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(8)(a)(iv)
Rheoliad 7
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 4 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
Colofn 1 Gweithgaredd | [F32Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | [F33Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
Cais i gymeradwyo baedd i ddarparu semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial | ||
| Ystyried cais i gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at y diben o gasglu semen | 42 am bob baedd | 53 am bob baedd |
Profi baedd yn rheolaidd | ||
| Profi baedd yn rheolaidd mewn canolfan ffrwythloni artiffisial | 31 am bob baedd | 38 am bob baedd |
Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial | ||
| Ystyried cais oddi wrth weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial | 37 | 46 |
| Ystyried cais i gymeradwyo newid mewn mangre drwyddedig neu fangre gymeradwy (yn unol ag amodau sydd ynghlwm â’r drwydded neu gymeradwyaeth) | 34 | 42 |
| Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial | 23] | 28] |
Diwygiadau Testunol
F32Geiriau yn Atod. 4 Tabl wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(9)(a)
F33Geiriau yn Atod. 4 Tabl wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(9)(b)
Rheoliad 8
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 5 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
Colofn 1 Gweithgaredd | [F34Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | [F35Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol wrth gyflawni’r gweithgareddau a restrir yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
Ystyried cais i gymeradwyo neu ailgymeradwyo:
| 38 | 47 |
| Ystyried cais gan yr un ceisydd i gymeradwyo pob labordy neu storfa ychwanegol pan gaiff yr arolygiad ei gwblhau ar yr un diwrnod | 13 | 16 |
| Ystyried cais i ailgymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau | 34 | 42 |
| Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion un tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ac ailarolygu un labordy neu storfa | 23 | 28 |
| Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion pob tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ychwanegol, ac ailarolygu pob labordy neu storfa ychwanegol | 6 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol] | 7 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol] |
Diwygiadau Testunol
F34Geiriau yn Atod. 5 Tabl wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(10)(b)
F35Geiriau yn Atod. 5 Tabl wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(10)(c)
F36Geiriau yn Atod. 5 Tabl wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(10)(a)(i)
F37Geiriau yn Atod. 5 Tabl wedi eu hepgor (5.7.2023) yn rhinwedd Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(10)(a)(ii)
F38Geiriau yn Atod. 5 Tabl wedi eu mewnosod (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(10)(a)(iii)
Rheoliad 9
Diwygiadau Testunol
F39Geiriau yn Atod. 6 pennawd wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(11)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 6 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1
Colofn 1 [F41Arolygu math o anifail a gwirio dogfennau | Colofn 2 Ffioedd (£) am bob llwyth ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
|---|---|
| Dofednod ac adar hela bach | 53 |
| Dofednod – mewnforion wyau rheolaidd | 53 |
| Ratidau | 53 |
| Adar caeth | 61 |
| Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol ac amffibiaid | 48 |
| Gwenyn | 40 |
| Cwningod a chnofilod | 44 |
| Pryfed eraill ac infertebratau | 40 |
| Ymlusgiaid | 48 |
| Anifeiliaid anwes heb ddatganiad | 63 |
| Equidae | 79 |
| Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt | 190 |
| Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall | 50 |
| Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho | 79] |
Diwygiadau Testunol
F40Geiriau yn Atod. 6 pennawd wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(11)(a)
F41Atod. 6 Tabl 1 wedi ei amnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(11)(b)
Colofn 1 Y cyfnod pryd y cynhaliwyd yr arolygiad | [F42Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
|---|---|
(1) ystyr “y tu allan i oriau” yw cyn 8.30 a.m. neu ar ôl 5 p.m. ar ddiwrnod gwaith. | |
(2) ystyr “llwyth” yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn y safle rheoli ar y ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio. | |
(3) ystyr “gŵyl gyhoeddus” yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(16).] | |
| Arolygiad y tu allan i oriau(1) (2) | 261 am bob llwyth (1) (2) |
| Arolygiad yn ystod penwythnos neu ŵyl gyhoeddus(3) | 346 am bob llwyth (1) (2) |
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre | 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad |
Diwygiadau Testunol
F42Geiriau yn Atod. 6 Tabl 2 wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(11)(c)
Colofn 1 Y personau sy’n ymgymryd â’r gwiriad ychwanegol | [F43Colofn 2 Ffi am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
|---|---|
(1) ystyr “y tu allan i oriau” yw cyn 8.30 a.m. neu ar ôl 5 p.m. ar ddiwrnod gwaith. | |
(2) ystyr “gŵyl gyhoeddus” yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol1971.] | |
| Swyddog milfeddygol – gwiriadau y tu allan i oriau(1) | 21 |
| Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar benwythnosau neu wyliau cyhoeddus(2) | 28 |
| Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar bob adeg arall | 14 |
| Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre | 16, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad |
Diwygiadau Testunol
F43Geiriau yn Atod. 6 Tabl 3 wedi eu hamnewid (5.7.2023) gan Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/754), rhlau. 1(1), 3(11)(d)
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid, gan ddisodli’r ffioedd presennol yn Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1241 (Cy. 133)). Cesglir y ffioedd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ran Gweinidogion Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn daladwy mewn perthynas â gweithgareddau sy’n ofynnol o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd (OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t. 1) ac yn unol â Rhaglenni Cenedlaethol Rheoli Salmonela ar gyfer dofednod.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at ddiben y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74) a Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 6 ac Atodlen 3 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen buchol yn unol â Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1040 (Cy. 110)), a ddiwygir gan reoliad 6.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 7 ac Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen moch yn unol â Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (O.S. 1964/1172) a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (EEC) 1992 (O.S. 1992/3161).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 8 ac Atodlen 5 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gasglu, cynhyrchu a throsglwyddo embryonau buchol, yn unol â Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (O.S. 1995/2478).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 9 ac Atodlen 6 yn daladwy mewn perthynas ag arolygu llwythi o anifeiliaid byw mewn arolygfeydd ffin, yn unol â Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.
Mae rheoliad 10 yn dirymu’r darpariaethau ffioedd presennol yn Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.
Mae lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn yn cynrychioli costau llawn adennill ffioedd, ac mae rhai o’r ffioedd yn gynnydd ar y ffioedd presennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
1973 p. 51. Diwygiwyd is-adran (1) gan erthygl 6(1)(e) o O.S. 2011/1043.
Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
1984 p. 40; mae adran 10(8) yn diffinio’r “appropriate Minister” o ran Cymru fel yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion adran 10. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1966 p. 36. Diwygiwyd adran 2 gan erthygl 12 o O.S. 2003/2919, a pharagraff 1 o’r Atodlen iddo, a chan erthygl 2 o O.S. 2008/1824, a pharagraff 2(a) a (b) o’r Atodlen iddo.
O.S. 1964/1172, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1995/2478, y ceir diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2008/1040 (Cy. 110); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/398 (Cy. 48) ac O.S. 2013/1241 (Cy. 133).
O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela ar gyfer ieir dodwy sy’n cynhyrchu wyau i’w bwyta gan bobl, ieir bridio, brwyliaid a thyrcwn; cynlluniwyd y rhaglenni i leihau nifer yr achosion o wahanol fathau o Salmonela sy’n arwyddocaol o ran iechyd y cyhoedd, yn unol â thargedau’r UE.
Mae’r cynllun iechyd dofednod yn cynnig system gofrestru a chymeradwyo sy’n galluogi sefydliadau i wirhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth yr UE fel eu bod yn gymwys wedyn i allforio mwy nag 20 o gywion neu wyau deor i Aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Yn ychwanegol, mae’n darparu ar gyfer cynnal profion ar hyfedredd y labordai sy’n profi samplau ar ran aelodau’r cynllun iechyd dofednod.