Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973, mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018. Maent yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 30 Mehefin 2018.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
F1ystyr “cynllun iechyd dofednod” (“poultry health scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n llywodraethu allforio neu symud adar neu wyau deor i’r UE, Gogledd Iwerddon neu wledydd penodedig nad ydynt yn yr UE, a gyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf 2021;
ystyr “llwyth” (“consignment”) yw nifer o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif filfeddygol neu ddogfen filfeddygol;
mae i F2“safle rheoli ar y ffin” (“border control post”) yr ystyr a roddir gan reoliad 11 o Reoliadau 2011;
ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru; ac
F3ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth heblaw Ynysoedd Prydain;
F4Y ffi sy’n daladwy pan fo gweithgaredd yn cael ei gyflawni dros gyfnod pan fo ffioedd gwahanol yn gymwys2A.
Os cyflawnir unrhyw weithgaredd y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn dros gyfnod pan fo ffioedd gwahanol yn gymwys, y ffi sy’n daladwy mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw yw—
(a)
pan fo’r gweithgaredd yn cael ei gyflawni fel rhan o gais, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y daw’r cais i law;
(b)
fel arall, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y dechreuir y gweithgaredd.
Ad-dalu ffioedd3.
Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy amdano o dan y Rheoliadau hyn ei dynnu’n ôl cyn penderfynu’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd y gyfran honno o unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais hwnnw sy’n rhesymol ym marn Gweinidogion Cymru, o ystyried unrhyw gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais.
Y rhaglenni F5... rheoli salmonela (milheintiau): ffioedd4.
(1)
(2)
Yn Atodlen 1—
(a)
mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros ddaliad dofednod am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 F7neu golofn 3 o’r Tabl hwnnw;
(b)
mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 F8neu golofn 3 o’r Tabl hwnnw; ac
(c)
mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros heidiau dofednod am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 F9neu golofn 3 o’r Tabl hwnnw.
(3)
Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 1 yr un ystyr ag yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003.
Y cynllun iechyd dofednod:ffioedd5.
(1)
(2)
Yn Atodlen 2—
(a)
mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 F10neu golofn 3 o’r Tabl hwnnw; a
(b)
mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
Semen buchol:ffioedd6.
(1)
Mae Rheoliadau 2008 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2)
“41.
Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru fel y darperir gan reoliad 6(3) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018.”
(3)
Mae Atodlen 3 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2008; ac yn unol â hynny mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr a gweithredwyr am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 F11neu golofn 3 o’r Tabl hwnnw.
(4)
Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 3 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 2008.
Semen moch:ffioedd7.
(1)
Mae Atodlen 4 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â dyroddi trwyddedau neu gymeradwyaethau o dan Reoliadau 1964 neu Reoliadau 1992, a phrofion ac archwiliadau a gynhelir o dan y Rheoliadau hynny.
(2)
Yn Atodlen 4 mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, neu gan ddeiliad trwydded neu gymeradwyaeth o’r fath, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 F12neu golofn 3 o’r Tabl hwnnw.
(3)
Yn Atodlen 4 ystyr “canolfan ffrwythloni artiffisial” yw mangre—
(a)
y mae trwydded mewn grym mewn cysylltiad â hi o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 1964, neu
(b)
sydd wedi ei chymeradwyo o dan reoliad 2(2) neu (3) o Reoliadau 1992.
Embryonau buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo):ffioedd8.
(1)
Mae Atodlen 5 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am weithgareddau mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth neu ddeiliad cymeradwyaeth o dan Reoliadau 1995.
(2)
Yn Atodlen 5, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am gymeradwyaeth o dan Reoliadau 1995 am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, neu gan ddeiliaid cymeradwyaeth o’r fath, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 F13neu golofn 3 o’r Tabl hwnnw.
(3)
Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 5 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 1995.
Gwirio llwythi o anifeiliaid byw mewn F14safleoedd rheoli ar y ffin: ffioedd9.
(1)
Mae Atodlen 6 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy pan gynhelir arolygiadau mewn F15safleoedd rheoli ar y ffin o lwythi o anifeiliaid byw o drydedd wlad yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 2011.
(2)
Yn Atodlen 6—
(a)
mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arolygu llwyth o anifeiliaid byw a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;
(b)
mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arolygiadau a gynhelir yn ystod cyfnod a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac maent yn daladwy yn ychwanegol at unrhyw ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (a);
(c)
mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwiriadau ychwanegol oherwydd peidio â chydymffurfio neu fesurau rheoli ychwanegol gan berson a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac maent yn daladwy yn ychwanegol at unrhyw ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (a).
Dirymu10.
ATODLEN 1Y rhaglenni F16... rheoli salmonela (milheintiau): Ffioedd
Colofn 1 Gweithgaredd | F17Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | F18Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
Amser a dreuliwyd yn cael sampl reoli swyddogol i’w harchwilio mewn labordy (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a bennir isod oni phennir fel arall yng ngholofn 2) | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72 | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72 |
Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir dodwy | 41 | 49 |
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir neu dyrcwn bridio | 68 | 83 |
Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir bwyta (brwyliaid) neu haid o dyrcwn pesgi | 95 | 117 |
Archwilio sampl reoli swyddogol mewn labordy | 18 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys) | 21 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
|---|---|---|
Gweithgaredd | Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol i labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy | 86 | 86 |
Cynnal arolygiadau ar gyfer gwaith sicrhau ansawdd | 688 am bob ymweliad | 1,025 am bob ymweliad |
Cynnal profion cydweithredol ar gyfer Salmonela fel sy’n ofynnol i gael cymeradwyaeth fel labordy profi, a chadw’r gymeradwyaeth honno | 44 am bob prawf | 44 am bob prawf |
Colofn 1 Gweithgaredd | F20Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | F21Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
Cynnal profion ar saith o samplau llwch a charthion a gymerir o bob haid | 123 | 146 |
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar gaeca ac wyffosydd 300 o adar o bob haid | 3,203 | 3,936 |
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid | 3,517 | 3,954 |
ATODLEN 2Y cynllun iechyd dofednod: Ffioedd
Colofn 1 Gweithgaredd | F22Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | F23Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a restrir isod, oni phennir fel arall yng ngholofn 2) | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre aelod o’r cynllun iechyd dofednod (“aelod o’r cynllun” yn y Tabl hwn) at ddibenion y gweithgareddau isod | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
Cofrestriad blynyddol fel aelod o gynllun | 82 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) | 108 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol | 49 | 71 |
Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol | 62 | 67 |
Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol | 35 | 39 |
Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol | 61 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) | 67 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol | 34 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) | 39 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Colofn 1 Gweithgaredd | F24Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
|---|---|
Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol ar gyfer labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy | 86 |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â bacterioleg Salmonela (pullorum, gallinarum ac arizonae) | 158 am bob prawf |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Salmonela (pullorum, gallinarum) | 310 am bob prawf |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn ieir (gallisepticum) | 310 am bob prawf |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | 280 am bob prawf |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn tyrcwn (gallisepticum a meleagridis) | 310 am bob prawf |
ATODLEN 3Semen buchol: Ffioedd
Colofn 1 Gweithgaredd | F25Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | F26Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny Colofn 3 |
|---|---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
Ystyried cais i gymeradwyo anifail buchol o dan reoliadau 7 neu 10 o Reoliadau 2008 i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu ddomestig neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu | 27 | 33 |
Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2008 i gymeradwyo anifail buchol i’w ddefnyddio mewn F27canolfan gasglu drwyddedig | 35 | 44 |
Ystyried cais am drwydded i weithredu F28canolfan gwarantin drwyddedig o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 | 39 | 48 |
Ystyried cais am drwydded i weithredu F29canolfan gasglu drwyddedig neu ddomestig, F30neu ganolfan storio drwyddedig neu ddomestig o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 | 37 | 46 |
Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 2008 | 23 | 28 |
Cynnal archwiliad rheolaidd o anifail buchol cymeradwy F31at ddefnydd domestig neu at ddefnydd masnachu ag Aelod-wladwriaeth o dan reoliad 33 o Reoliadau 2008 | 31 | 38 |
ATODLEN 4Semen moch: Ffioedd
Colofn 1 Gweithgaredd | F32Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | F33Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
Cais i gymeradwyo baedd i ddarparu semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial | ||
Ystyried cais i gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at y diben o gasglu semen | 42 am bob baedd | 53 am bob baedd |
Profi baedd yn rheolaidd | ||
Profi baedd yn rheolaidd mewn canolfan ffrwythloni artiffisial | 31 am bob baedd | 38 am bob baedd |
Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial | ||
Ystyried cais oddi wrth weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial | 37 | 46 |
Ystyried cais i gymeradwyo newid mewn mangre drwyddedig neu fangre gymeradwy (yn unol ag amodau sydd ynghlwm â’r drwydded neu gymeradwyaeth) | 34 | 42 |
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial | 23 | 28 |
ATODLEN 5Embryonau buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo): Ffioedd
Colofn 1 Gweithgaredd | F34Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | F35Colofn 3 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol wrth gyflawni’r gweithgareddau a restrir yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132 |
Ystyried cais i gymeradwyo neu ailgymeradwyo:
| 38 | 47 |
Ystyried cais gan yr un ceisydd i gymeradwyo pob labordy neu storfa ychwanegol pan gaiff yr arolygiad ei gwblhau ar yr un diwrnod | 13 | 16 |
Ystyried cais i ailgymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau | 34 | 42 |
Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion un tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ac ailarolygu un labordy neu storfa | 23 | 28 |
Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion pob tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ychwanegol, ac ailarolygu pob labordy neu storfa ychwanegol | 6 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol | 7 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol |
ATODLEN 6Gwirio llwythi o anifeiliaid byw o drydydd gwledydd mewn F39safleoedd rheoli ar y ffin: Ffioedd
Colofn 1 F41Arolygu math o anifail a gwirio dogfennau | Colofn 2 Ffioedd (£) am bob llwyth ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
|---|---|
Dofednod ac adar hela bach | 53 |
Dofednod – mewnforion wyau rheolaidd | 53 |
Ratidau | 53 |
Adar caeth | 61 |
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol ac amffibiaid | 48 |
Gwenyn | 40 |
Cwningod a chnofilod | 44 |
Pryfed eraill ac infertebratau | 40 |
Ymlusgiaid | 48 |
Anifeiliaid anwes heb ddatganiad | 63 |
Equidae | 79 |
Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt | 190 |
Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall | 50 |
Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho | 79 |
Colofn 1 Y cyfnod pryd y cynhaliwyd yr arolygiad | F42Colofn 2 Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
|---|---|
Arolygiad y tu allan i oriau(1) | 261 am bob llwyth (1) |
Arolygiad yn ystod penwythnos neu ŵyl gyhoeddus(3) | 346 am bob llwyth (1) |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre | 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad |
Colofn 1 Y personau sy’n ymgymryd â’r gwiriad ychwanegol | F43Colofn 2 Ffi am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny |
|---|---|
Swyddog milfeddygol – gwiriadau y tu allan i oriau(1) | 21 |
Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar benwythnosau neu wyliau cyhoeddus(2) | 28 |
Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar bob adeg arall | 14 |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre | 16, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad |
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid, gan ddisodli’r ffioedd presennol yn Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1241 (Cy. 133)). Cesglir y ffioedd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ran Gweinidogion Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn daladwy mewn perthynas â gweithgareddau sy’n ofynnol o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd (OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t. 1) ac yn unol â Rhaglenni Cenedlaethol Rheoli Salmonela ar gyfer dofednod.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at ddiben y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74) a Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 6 ac Atodlen 3 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen buchol yn unol â Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1040 (Cy. 110)), a ddiwygir gan reoliad 6.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 7 ac Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen moch yn unol â Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (O.S. 1964/1172) a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (EEC) 1992 (O.S. 1992/3161).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 8 ac Atodlen 5 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gasglu, cynhyrchu a throsglwyddo embryonau buchol, yn unol â Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (O.S. 1995/2478).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 9 ac Atodlen 6 yn daladwy mewn perthynas ag arolygu llwythi o anifeiliaid byw mewn arolygfeydd ffin, yn unol â Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.
Mae rheoliad 10 yn dirymu’r darpariaethau ffioedd presennol yn Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.
Mae lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn yn cynrychioli costau llawn adennill ffioedd, ac mae rhai o’r ffioedd yn gynnydd ar y ffioedd presennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.