Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid, gan ddisodli’r ffioedd presennol yn Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1241 (Cy. 133)). Cesglir y ffioedd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ran Gweinidogion Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn daladwy mewn perthynas â gweithgareddau sy’n ofynnol o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd (OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t. 1) ac yn unol â Rhaglenni Cenedlaethol Rheoli Salmonela ar gyfer dofednod.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at ddiben y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74) a Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 6 ac Atodlen 3 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen buchol yn unol â Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1040 (Cy. 110)), a ddiwygir gan reoliad 6.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 7 ac Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen moch yn unol â Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (O.S. 1964/1172) a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (EEC) 1992 (O.S. 1992/3161).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 8 ac Atodlen 5 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gasglu, cynhyrchu a throsglwyddo embryonau buchol, yn unol â Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (O.S. 1995/2478).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 9 ac Atodlen 6 yn daladwy mewn perthynas ag arolygu llwythi o anifeiliaid byw mewn arolygfeydd ffin, yn unol â Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.
Mae rheoliad 10 yn dirymu’r darpariaethau ffioedd presennol yn Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.
Mae lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn yn cynrychioli costau llawn adennill ffioedd, ac mae rhai o’r ffioedd yn gynnydd ar y ffioedd presennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.