2018 Rhif 650 (Cy. 122)

Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at y dibenion o wneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

a

adran 2(2) o Ddeddf 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi3;

b

adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 19734 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy5; ac

c

adran 10(1) a (3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 19846.

Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973, mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.