Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 646 (Cy. 120)

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018

Gwnaed

22 Mai 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mai 2018

Yn dod i rym

30 Mehefin 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion gwneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)adran 2(2) o Ddeddf 1972(3), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi; a

(b)adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(4).

Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973, mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Mehefin 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae “cymeradwyaeth” a “cymeradwyo” (“approval”) yn cynnwys cymeradwyaeth amodol o dan Erthygl 44(2) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person sydd wedi ei gofrestru yng nghofrestr y milfeddygon a gedwir o dan Ddeddf Milfeddygon 1966(5);

ystyr “Rheoliad Rheolaeth yr UE” (“EU Control Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002(6);

[F1ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(5);]

ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir gan Weinidogion Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1

Ad-dalu ffioeddLL+C

3.  Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn ei dynnu yn ôl cyn y penderfynir ar y cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd unrhyw gyfran o unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn rhesymol, gan roi sylw i unrhyw gostau rhesymol yr aeth Gweinidogion Cymru iddynt mewn cysylltiad â’r cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedigLL+C

4.—(1Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am geisiadau mewn cysylltiad â gweithgareddau cymeradwyo o dan Erthyglau 24 a 44 o Reoliad Rheolaeth yr UE i’w pennu yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen.

(2Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gweithgareddau arolygu o dan [F2Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol] i’w pennu yn unol â Thabl 2 o’r Atodlen.

(3Mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen yr un ystyr ag yn Rheoliad Rheolaeth yr UE [F3neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol].

Pasbortau anifeiliaid anwes: ffioeddLL+C

F45.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Mai 2018

Rheoliad 4

YR ATODLENLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1

Tabl 1

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu weithfa am gais i gael cymeradwyaeth neu gymeradwyaeth amodol o dan Erthyglau 24 a 44 o Reoliad Rheolaeth yr UE

Colofn 1

Gweithgaredd

[F5Colofn 2

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

Colofn 3

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 13222 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 7212 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol at ddiben gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn ar ôl 60 munud cyntaf ymweliad safle er mwyn asesu addasrwydd i gael cymeradwyaeth22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) at ddiben gweinyddu ymweliadau atodol a gweithgareddau cysylltiedig11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Ffi weinyddol atodol am gyflwyno anfonebau am ymweliadau atodol neu weithgareddau cysylltiedig21 am bob anfoneb21 am bob anfoneb
Ystyried cais am gymeradwyaeth i weithfa rendro sy’n prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud2,134.502,484
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â thrawsnewid sgil-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion deilliedig yn gompost, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud1,1471,343
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â thrawsnewid sgil-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion deilliedig yn fio-nwy, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud1,1471,343
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â thrin sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar ôl eu casglu, drwy weithrediadau megis didoli, torri, oeri, rhewi, halltu, tynnu crwyn neu dynnu deunydd risg penodedig, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud586687
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion deilliedig, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud586687
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud476557
Ystyried cais am gymeradwyaeth i weithfa losgi, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud476557]

Tabl 2

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu weithfa am ymweliadau safle o dan [F6Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol]

Colofn 1

Gweithgaredd

[F7Colofn 2

Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024

Colofn 3

Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny

Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 13222 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol at ddiben ymweliadau safle sy’n para mwy na 30 munud22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) at ddiben ymweliadau safle sy’n para mwy na 30 munud12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) yn trefnu ymweliadau safle ac yn ymdrin ag unrhyw bwyntiau gweithredu sy’n codi o’r ymweliad11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Cynnal 30 munud cyntaf arolygiad blynyddol neu ddwyflynyddol o sefydliad neu weithfa a gymeradwywyd neu a gofrestrwyd sy’n ofynnol o dan [F8y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol]188 am bob ymweliad219 am bob ymweliad
Ffi flynyddol am gynnal 30 munud cyntaf pob un o bedwar ymweliad safle er mwyn arolygu sefydliad neu weithfa a gymeradwywyd neu a gofrestrwyd pan fo arolygiad chwarterol yn ofynnol o dan [F8y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol]752 y flwyddyn876 y flwyddyn
Ffi flynyddol am gynnal 30 munud cyntaf pob un o ddeuddeg ymweliad safle er mwyn arolygu sefydliad neu weithfa a gymeradwywyd neu a gofrestrwyd pan fo ymweliadau arolygu misol yn ofynnol o dan [F8y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol]2,256 y flwyddyn2,628 y flwyddyn]

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod ffioedd yn daladwy gan weithredwyr sefydliadau a gweithfeydd y mae’n ofynnol eu cymeradwyo a’u harolygu o dan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 1). Nodir y ffioedd hyn yn yr Atodlen.

Pennir bod y ffioedd yn 50% o swm adennill cost lawn y costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt yn y cyfnod hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019 (ac eithrio amser teithio i fangreoedd, sy’n cynrychioli’r swm adennill cost lawn o’r dechrau), ac yna pennir eu bod yn 100% o’r swm adennill cost lawn wedi hynny.

Mae’r ffioedd yn rheoliad 5 yn daladwy mewn cysylltiad â danfon pasbortau anifeiliaid anwes i filfeddygon awdurdodedig at ddiben dyroddi pasbort anifail anwes er mwyn galluogi ci, cath neu ffured i deithio dramor gyda’i berchennog neu ei pherchennog.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(3)

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

(4)

1973 p. 51. Diwygiwyd is-adran (1) gan erthygl 6(1)(e) o O.S. 2011/1043. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(5)

1966 p. 36. Diwygiwyd adran 2 gan erthygl 12 o O.S. 2003/2919, a pharagraff 1 o’r Atodlen iddo; a chan erthygl 2 o O.S. 2008/1824, a pharagraff 2(a) a (b) o’r Atodlen iddo.

(6)

OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) Rhif 1385/2013 (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t. 86).