Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973, mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Mehefin 2018.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
mae “cymeradwyaeth” a “cymeradwyo” (“approval”) yn cynnwys cymeradwyaeth amodol o dan Erthygl 44(2) o Reoliad Rheolaeth yr UE;
F1ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion5;
ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir gan Weinidogion Cymru.
Ad-dalu ffioedd3.
Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn ei dynnu yn ôl cyn y penderfynir ar y cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd unrhyw gyfran o unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn rhesymol, gan roi sylw i unrhyw gostau rhesymol yr aeth Gweinidogion Cymru iddynt mewn cysylltiad â’r cais.
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig4.
(1)
Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am geisiadau mewn cysylltiad â gweithgareddau cymeradwyo o dan Erthyglau 24 a 44 o Reoliad Rheolaeth yr UE i’w pennu yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen.
(2)
Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gweithgareddau arolygu o dan F2Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol i’w pennu yn unol â Thabl 2 o’r Atodlen.
(3)
Mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen yr un ystyr ag yn Rheoliad Rheolaeth yr UE F3neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Pasbortau anifeiliaid anwes: ffioeddF45.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
YR ATODLEN
Colofn 1 Gweithgaredd | F5Colofn 2 Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | Colofn 3 Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 |
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72 | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72 |
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol at ddiben gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn ar ôl 60 munud cyntaf ymweliad safle er mwyn asesu addasrwydd i gael cymeradwyaeth | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) at ddiben gweinyddu ymweliadau atodol a gweithgareddau cysylltiedig | 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Ffi weinyddol atodol am gyflwyno anfonebau am ymweliadau atodol neu weithgareddau cysylltiedig | 21 am bob anfoneb | 21 am bob anfoneb |
Ystyried cais am gymeradwyaeth i weithfa rendro sy’n prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | 2,134.50 | 2,484 |
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â thrawsnewid sgil-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion deilliedig yn gompost, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | 1,147 | 1,343 |
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â thrawsnewid sgil-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion deilliedig yn fio-nwy, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | 1,147 | 1,343 |
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â thrin sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar ôl eu casglu, drwy weithrediadau megis didoli, torri, oeri, rhewi, halltu, tynnu crwyn neu dynnu deunydd risg penodedig, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | 586 | 687 |
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion deilliedig, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | 586 | 687 |
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | 476 | 557 |
Ystyried cais am gymeradwyaeth i weithfa losgi, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | 476 | 557 |
Colofn 1 Gweithgaredd | F7Colofn 2 Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 | Colofn 3 Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny |
|---|---|---|
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 |
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn | 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol at ddiben ymweliadau safle sy’n para mwy na 30 munud | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) at ddiben ymweliadau safle sy’n para mwy na 30 munud | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) yn trefnu ymweliadau safle ac yn ymdrin ag unrhyw bwyntiau gweithredu sy’n codi o’r ymweliad | 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Cynnal 30 munud cyntaf arolygiad blynyddol neu ddwyflynyddol o sefydliad neu weithfa a gymeradwywyd neu a gofrestrwyd sy’n ofynnol o dan F8y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol | 188 am bob ymweliad | 219 am bob ymweliad |
Ffi flynyddol am gynnal 30 munud cyntaf pob un o bedwar ymweliad safle er mwyn arolygu sefydliad neu weithfa a gymeradwywyd neu a gofrestrwyd pan fo arolygiad chwarterol yn ofynnol o dan F8y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol | 752 y flwyddyn | 876 y flwyddyn |
Ffi flynyddol am gynnal 30 munud cyntaf pob un o ddeuddeg ymweliad safle er mwyn arolygu sefydliad neu weithfa a gymeradwywyd neu a gofrestrwyd pan fo ymweliadau arolygu misol yn ofynnol o dan F8y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol | 2,256 y flwyddyn | 2,628 y flwyddyn |
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid.
Mae rheoliad 4 yn darparu bod ffioedd yn daladwy gan weithredwyr sefydliadau a gweithfeydd y mae’n ofynnol eu cymeradwyo a’u harolygu o dan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 1). Nodir y ffioedd hyn yn yr Atodlen.
Pennir bod y ffioedd yn 50% o swm adennill cost lawn y costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt yn y cyfnod hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019 (ac eithrio amser teithio i fangreoedd, sy’n cynrychioli’r swm adennill cost lawn o’r dechrau), ac yna pennir eu bod yn 100% o’r swm adennill cost lawn wedi hynny.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 5 yn daladwy mewn cysylltiad â danfon pasbortau anifeiliaid anwes i filfeddygon awdurdodedig at ddiben dyroddi pasbort anifail anwes er mwyn galluogi ci, cath neu ffured i deithio dramor gyda’i berchennog neu ei pherchennog.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.