NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod ffioedd yn daladwy gan weithredwyr sefydliadau a gweithfeydd y mae’n ofynnol eu cymeradwyo a’u harolygu o dan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 1). Nodir y ffioedd hyn yn yr Atodlen.

Pennir bod y ffioedd yn 50% o swm adennill cost lawn y costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt yn y cyfnod hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019 (ac eithrio amser teithio i fangreoedd, sy’n cynrychioli’r swm adennill cost lawn o’r dechrau), ac yna pennir eu bod yn 100% o’r swm adennill cost lawn wedi hynny.

Mae’r ffioedd yn rheoliad 5 yn daladwy mewn cysylltiad â danfon pasbortau anifeiliaid anwes i filfeddygon awdurdodedig at ddiben dyroddi pasbort anifail anwes er mwyn galluogi ci, cath neu ffured i deithio dramor gyda’i berchennog neu ei pherchennog.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.