2018 Rhif 577 (Cy. 104)
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 26(1) i (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 19471 ac adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 19722 fel y’u cymhwysir gan adran 16(3)3 o’r Ddeddf honno, a chan adrannau 34 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20044, ac a freinir bellach yng Ngweinidogion Cymru.

Cyn gwneud y Gorchymyn hwn, ac yn unol ag adran 34(5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.