RHAN 4Darpariaeth Drosiannol
Darpariaeth drosiannol29
Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo, cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, mewn perthynas ag adeilad ynni a eithrir—
a
hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau neu hysbysiad corff cyhoeddus yn cael ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol; neu
b
gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu blaniau o’r fath, pa un a oes unrhyw wyro oddi wrth yr hysbysiad hwnnw neu’r planiau hynny ai peidio.