NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“y Rheoliadau Adeiladu”) a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”) mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”) i wneud rheoliadau adeiladu a materion cysylltiedig i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif. 2) 2009 a ddaeth i rym ar 31 Rhagfyr 2011. Gwnaed eithriad o’r trosglwyddo mewn perthynas ag “adeiladau ynni a eithrir” sydd â’r ystyr a roddir i “excepted energy buildings” gan yr Atodlen i’r Gorchymyn hwnnw.

Roedd diwygiadau i’r Rheoliadau Adeiladu a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o 31 Rhagfyr 2011 yn gymwys o ran Lloegr ac i adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru. Roedd diwygiadau i’r Rheoliadau hynny a wnaed gan Weinidogion Cymru o 31 Rhagfyr 2011 yn gymwys o ran Cymru ac eithrio i adeiladau ynni a eithrir.

Mae adran 54 o Ddeddf Cymru 2017 yn dileu’r eithriad mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir drwy wneud y ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o dan Ddeddf 1984 ar gyfer y categori hwnnw o adeiladau o 1 Ebrill 2018.

Effaith y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw cysoni’r darpariaethau yn y Rheoliadau Adeiladu a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru â’r darpariaethau sy’n gymwys i adeiladau eraill yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.