2018 Rhif 558 (Cy. 97)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Adeiladau Ynni a Eithrir) (Cymru) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â dylunio ac adeiladu adeiladau ac mewn perthynas â gwasanaethau, ffitiadau a chyfarpar a ddarperir yn yr adeiladau hynny neu mewn cysylltiad â hwy.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 1A, 2, 2A, 3, 16, 17, 34, 35, 47, 49, 50, 51, 51A, 52 a 54 o Ddeddf Adeiladu 19843 a pharagraffau 1, 2, 4, 4A, 6, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, a pharagraffau 2 a 3 o Atodlen 4 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy4, ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt hwy eu bod yn cynrychioli’r materion dan sylw yn unol ag adran 14(7) o’r Ddeddf honno5, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: