- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
2 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mai 2018
Yn dod i rym
30 Mai 2018
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mai 2018.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Ym mharagraff A.2(4A) o Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(3) yn lle “30th May 2018” rhodder “30th May 2019”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
2 Mai 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (“y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir”) o ran Cymru.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir ac Atodlen 2 iddo yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn cysylltiad â datblygu penodol. Pan fo hawliau o’r fath wedi eu rhoi, nid yw cais am ganiatâd cynllunio yn ofynnol.
Mae Dosbarth A o Ran 24 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn caniatáu datblygu penodol gan weithredwyr cod cyfathrebiadau electronig ar yr amod nad yw’n dod o fewn A.1 (datblygu nas caniateir) ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a chyfyngiadau perthnasol yn A.2 ac A.3.
Mae paragraff A.2(4A) yn nodi amodau mewn perthynas ag adeiladu, gosod neu amnewid polion, cabinetau neu linellau telegraff ar gyfer gwasanaethau band eang llinell sefydlog mewn perthynas â chategorïau o dir a nodir yn erthygl 1(5) o’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir a Rhan 2 o Atodlen 1 iddo. Os bodlonir yr holl amodau perthnasol, nid yw’n ofynnol cael cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer datblygiad o’r fath o dan baragraff A.3. Un o’r amodau hynny yw bod rhaid cwblhau’r datblygiad ar 30 Mai 2018 neu cyn hynny.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn estyn y dyddiad hwnnw i 30 Mai 2019.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer y Gorchymyn hwn oherwydd ni ragwelir y bydd unrhyw effaith ar fusnesau, ar elusennau nac ar y sector cyhoeddus y tu hwnt i natur yr hyn a archwiliwyd yn yr asesiad effaith a oedd yn mynd gyda Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014 (O.S. 2014/2692 (Cy. 267)), a fewnosododd baragraff A.2(4A) yn Rhan 24. Gellir cael copi o’r asesiad hwnnw oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
1990 p. 8 (“Deddf 1990”). Diwygiwyd adran 59 gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 55 o’r Ddeddf honno a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Diwygiwyd adran 333 gan baragraffau 3 a 6 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Nid yw’r diwygiadau eraill i’r adrannau o Ddeddf 1990 y cyfeirir atynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cofnodion priodol yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 1995/418. Amnewidiwyd Rhan 24 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1878 (Cy. 187)) ac fe’i diwygiwyd gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014 (O.S. 2014/2692 (Cy. 267)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: