Darpariaeth drosiannol6

1

Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 i 5 yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo, ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym—

a

gwaith adeiladu wedi cychwyn yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol; neu

b

pan gydymffurfir â darpariaeth hysbysu berthnasol mewn perthynas â gwaith adeiladu arfaethedig a bod y gwaith adeiladu wedi ei ddechrau o fewn y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

2

Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth hysbysu berthnasol” (“relevant notification provision”) yw rheoliad 12(2) o Reoliadau 2010 ac adrannau 47(1), 50, 51A(2) a 54 o Ddeddf Adeiladu 1984.