Search Legislation

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2018

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2018

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2018. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 No. 48 (Cy. 15)

Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2018

Gwnaed

17 Ionawr 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Ionawr 2018

Yn dod i rym

2 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

DiwygioLL+C

2.  Mae Atodlen 1 (diwygiadau o ganlyniad i gychwyn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

DirymuLL+C

3.  Mae Atodlen 2 (dirymiadau) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Huw Irranca-Davies

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

17 Ionawr 2018

Rheoliad 2

ATODLEN 1LL+CDiwygiadau o ganlyniad i gychwyn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975LL+C

1.—(1Mae Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2(1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “children’s home” rhodder—

“children’s home”—

(a)

in relation to England, has the meaning given by section 1 of the Care Standards Act 2000(3); and

(b)

in relation to Wales, means a place at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons under the age of 18.;

(b)yn lle’r diffiniad o “residential family centre” rhodder—

“residential family centre”—

(a)

in relation to England, has the meaning given by section 4(2) of the Care Standards Act 2000; and

(b)

in relation to Wales, means a place at which a residential family centre service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided;.

(3Yn Atodlen 1 (proffesiynau, swyddi, cyflogaethau, gwaith a galwedigaethau sydd wedi eu heithrio), yn Rhan 4 (dehongli), yn y diffiniad o “care services”, ym mharagraff (i), yn lle’r geiriau mewn cromfachau rhodder—

(where “care home”, in relation to England, has the same meaning as in the Care Standards Act 2000, and in relation to Wales, means a place at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over).

(4Yn Atodlen 3 (achosion sydd wedi eu heithrio), ar ôl paragraff 17A mewnosoder—

17B.  Proceedings relating to registration under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016..

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991LL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1A, ym mharagraff (1)(b)—

(a)hepgorer “secure”;

(b)ar ôl “in Wales”, mewnosoder “provided for the purpose of restricting the liberty of children to whom the criteria in paragraph (a) or (b) of section 119(1) of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 apply”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Llochesau (Cartrefi Plant a Lleoliadau Maeth) 1991LL+C

3.—(1Mae Rheoliadau Llochesau (Cartrefi Plant a Lleoliadau Maeth) 1991(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4(1)(b) (tynnu tystysgrif yn ôl), yn lle “Parts III to V of the Children’s Homes (Wales) Regulations 2002” rhodder “Parts 3 to 15 of the Regulated Services (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) Regulations 2017(6)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992LL+C

4.—(1Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992(7) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2, yn lle’r diffiniad o “care home” rhodder—

“care home” means—

(a)

in relation to England, a care home within the meaning of the Care Standards Act 2000, in respect of which a person is registered in accordance with Part 1 of the Health and Social Care Act 2008(8); and

(b)

in relation to Wales, a place at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over;.

(3Yn erthygl 3A, yn lle “Part 2 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992LL+C

5.—(1Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, o dan y pennawd “residential care homes, etc”, yn y cofnod ar gyfer “Class A”, yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)in relation to England, a care home, within the meaning of the Care Standards Act 2000, in respect of which a person is registered in accordance with Part 1 of the Health and Social Care Act 2008; and

(aa)in relation to Wales, a place at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over..

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001LL+C

6.—(1Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 53 (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol ar sail nam difrifol ar y golwg neu unrhyw anabledd arall), ar ôl paragraff (2)(k), mewnosoder—

(ka)the person who is registered under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 as the provider of a care home service (within the meaning of Part 1 of that Act) which is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over;.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002LL+C

7.—(1Mae Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5B (gwaith gydag oedolion)—

(a)ym mharagraff (1)(e), ar ôl paragraff (iv), mewnosoder—

(iva)a regulated service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, in relation to which a requirement to register arises under section 5 of that Act;;

(b)ym mharagraff (6), ar ôl is-baragraff (e), mewnosoder—

(ea)any form of work carried out, whether or not for gain, at a place which provides a care home service (within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016) which is provided wholly or mainly to adults that gives the person carrying out the work the opportunity to have contact with the adults who are resident at that place;.

(3Yn rheoliad 5C (gwaith gyda phlant), ar ôl paragraff (j), mewnosoder—

(ja)registration under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (regulated services);.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Lloegr) 2002LL+C

8.—(1Mae Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Lloegr) 2002(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (y seiliau dros ddatgymhwyso), ar ôl paragraff (7), mewnosoder—

(7A) In relation to the registration of a care home (within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”)) which is provided wholly or mainly to children—

(a)the person’s application for registration has been refused under section 7 of the 2016 Act;

(b)the person’s application to vary their registration (in accordance with section 11(1)(a)(i) or (ii) of the 2016 Act) has been refused under section 12 of the 2016 Act;

(c)the person’s registration has been cancelled under section 15(1)(b) to (f) or 23(1) of the 2016 Act;

(d)the person has been concerned in the management of, or had a financial interest in, a care home service provided wholly or mainly to children in respect of which the registration of any person has been cancelled under section 15(1)(b) to (f) or 23(1) of the 2016 Act; or

(e)the person’s registration has been varied under section 13(3)(b) or (4)(b) or 23(1) of the 2016 Act..

(3Yn yr Atodlen (troseddau penodedig), ym mharagraff 1 (troseddau yng Nghymru a Lloegr), ar ôl is-baragraff (2), mewnosoder—

(3) An offence in relation to a care home service provided wholly or mainly to children under or by virtue of any of the following provisions of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016—

(a)section 5 (requirement to register);

(b)section 43 (failure to comply with a condition);

(c)section 44 (false descriptions);

(d)section 45 (failure by service provider to comply with requirements in regulations); or

(e)section 47 (false statements)..

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002LL+C

9.—(1Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “appropriate office of the National Assembly” hepgorer y paragraffau a ganlyn—

(i)paragraffau (a) a (b),

(ii)ail baragraff (f) (sy’n ymwneud â throsedd a bennir o dan adran 2(4) o Reoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003(14)),

(iii)paragraff (h);

(b)hepgorer y diffiniadau o “domiciliary care agency” a “placement plan”;

(c)yn y diffiniad o “statement of purpose” hepgorer paragraffau (a), (b), (f) ac (i).

(3Yn rheoliad 4 (gwybodaeth a dogfennau sydd i gael eu darparu gan geisydd), ym mharagraff (4), yn y tabl, hepgorer y cofnodion sy’n ymwneud ag—

(a)cartref gofal;

(b)cartref plant.

(4Yn rheoliad 9 (cynnwys tystysgrif), ym mharagraff (e), yn lle “section 4(8)(a) or (9)(a)” rhodder “section 4(8)(a)(iii), (iv), (v), (vii) or (9)(a)(i), (iv), (v), (vi)”.

(5Yn Atodlen 1 (gwybodaeth sydd i gael ei chyflenwi ar gais i gofrestru fel person sy’n cynnal sefydliad neu asiantaeth)—

(a)yn Rhan 1 (gwybodaeth am y ceisydd)—

(i)ym mharagraff 1, hepgorer is-baragraffau (ba) ac (g),

(ii)ym mharagraff 2, hepgorer is-baragraff (ca);

(b)yn Rhan 2 (gwybodaeth am y sefydliad)—

(i)ym mharagraff 5, yn lle “section 4(8)(a) or (9)(a)” rhodder “section 4(8)(a)(iii), (iv), (v), (vii) or (9)(a)(i), (iv), (v), (vi)”,

(ii)ym mharagraff 13, yn lle “section 4(8)(a) or (9)(a)” rhodder “section 4(8)(a)(iii), (iv), (v), (vii) or (9)(a)(i), (iv), (v), (vi)”;

(c)yn Rhan 3 (gwybodaeth bellach am staff), ym mharagraff 16, hepgorer is-baragraff (ea).

(6Yn Atodlen 3 (gwybodaeth a dogfennau sydd i gael eu cyflenwi ar gais i gofrestru fel rheolwr sefydliad neu asiantaeth), hepgorer paragraffau 2A, 2B a 2C.

(7Hepgorer Atodlen 4 (gwybodaeth sydd i gael ei chyflenwi ar gais i gofrestru mewn cysylltiad â chartref gofal) ac Atodlen 5 (gwybodaeth sydd i gael ei chyflenwi ar gais i gofrestru mewn cysylltiad â chartref plant).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003LL+C

10.—(1Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “care home” rhodder—

“care home” means—

(a)

a care home in England within the meaning given by section 3 of the Care Standards Act 2000, and

(b)

a place in Wales at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over;.

(3Yn Atodlen 1 (addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn Nhabl B, yn y cofnod sy’n ymwneud â rheoliad 18, yng ngholofn 2 o reoliad 19A (cartrefi gofal) a fewnosodir, yn lle paragraff (a) a’r “or” sydd yn union ar ei ôl, rhodder—

(a)a care home in England within the meaning of section 3 of the Care Standards Act 2000;

(aa)a place in Wales at which a care home service (within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016) is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over; or.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004LL+C

11.—(1Mae Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen—

(a)yn Rhan 1 (tramgwyddau penodedig), ar ôl paragraff 4, mewnosoder—

4A.  Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau o dan 18 oed o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016—

(a)adran 5 (gofyniad i gofrestru);

(b)adran 43 (methiant i gydymffurfio ag amod);

(c)adran 44 (disgrifiadau anwir);

(ch)adran 45 (methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau); neu

(d)adran 47 (datganiadau anwir).;

(b)yn Rhan 2 (personau perthnasol), ar ôl paragraff 25, mewnosoder—

25A.  Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau o dan 18 oed—

(a)mae cais y person i gofrestru wedi’i wrthod o dan adran 7 o Ddeddf 2016;

(b)mae cais y person i amrywio ei gofrestriad (yn unol ag adran 11(1)(a)(i) neu (ii) o Ddeddf 2016) wedi’i wrthod o dan adran 12 o Ddeddf 2016;

(c)mae cofrestriad y person wedi’i ganslo o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016;

(ch)mae’r person wedi bod yn ymwneud â rheoli gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau o dan 18 oed, neu yr oedd ganddo fuddiant ariannol ynddo, ac y mae cofrestriad unrhyw berson wedi’i ganslo ar ei gyfer o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016; neu

(d)mae cofrestriad y person wedi’i amrywio o dan adran 13(3)(b) neu (4)(b) neu 23(1) o Ddeddf 2016..

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006LL+C

12.—(1Mae Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (adeiladau nad ydynt yn HMOs at unrhyw ddiben yn y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1))—

(a)ar ddiwedd paragraff (f), mewnosoder “ac”;

(b)hepgorer paragraffau (ff) i (ng);

(c)ar y diwedd mewnosoder—

(h)Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017..

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007LL+C

13.—(1Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(18) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (pleidlais absennol yn Etholiadau’r Cynulliad), ym mharagraff 4(2) (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau ar sail nam difrifol ar y golwg neu anabledd arall), yn lle paragraff (k), rhodder—

(k)a person who is registered under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 as the provider of a care home service (within the meaning of that Part) which is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over;.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007LL+C

14.—(1Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso), yn y diffiniad o “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yn lle’r geiriau “Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017”.

(3Yn rheoliad 14 (eithriadau i gymhwysiad y Rheoliadau), ym mharagraff (1)—

(a)ar ôl “ysgol” mewnosoder “yn Lloegr”;

(b)ar y diwedd, mewnosoder “, neu mewn ysgol yng Nghymru y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddi, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a pharagraff 1(3) o Atodlen 1 iddi.”.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007LL+C

15.—(1Mae Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007(20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 (cymhwyso’r Rheoliadau), ym mharagraff (2)—

(a)ar ôl “ysgol” mewnosoder “yn Lloegr”;

(b)ar y diwedd, mewnosoder “, neu mewn ysgol yng Nghymru y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddi, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a pharagraff 1(3) o Atodlen 1 iddi.”.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Mangreoedd etc.Di-fwg (Cymru) 2007LL+C

F116.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007LL+C

17.—(1Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” (“care home”) rhodder—

ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw—

(a)

lle yng Nghymru y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu drosodd, a

(b)

cartref gofal yn Lloegr o fewn yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;.

(3Yn Atodlen 1 (addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn Nhabl B, yn y cofnod sy’n ymwneud â rheoliad 18, yng ngholofn 2, yn rheoliad 19A (cartrefi gofal) a fewnosodir, yn lle paragraff (a) a’r “or” sydd yn union ar ei ôl, rhodder—

(a)a place in Wales at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over;

(aa)a care home in England within the meaning of section 3 of the Care Standards Act 2000; or.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Barhaus a Gwarcheidwaid Cyhoeddus 2007LL+C

18.—(1Mae Rheoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Barhaus a Gwarcheidwaid Cyhoeddus 2007(22) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 8(4) (personau a gaiff ddarparu tystysgrif atwrneiaeth arhosol), yn lle’r diffiniad o “care home” rhodder—

“care home” means—

(a)

a care home in England within the meaning given by section 3 of the Care Standards Act 2000, and

(b)

a place in Wales at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over;.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008LL+C

19.—(1Mae Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008(23) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “cartref gofal yng Nghymru” (“Welsh care home”), yn lle “corff” hyd at y diwedd rhodder “lle y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu drosodd”.

(3Yn rheoliad 23(dd) (personau perthnasol), yn lle is-baragraff (i) rhodder—

(i)yn berson sydd wedi’i gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ddarparwr gwasanaeth cartref gofal (o fewn ystyr y Rhan honno) a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu drosodd, neu’n berson sydd wedi’i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn rheolwr(24) gwasanaeth cartref gofal o’r fath (y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel “person cofrestredig”), neu.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009LL+C

20.—(1Mae Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009(25) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (gorchmynion etc. sy’n ymwneud â gofal plant), ar ôl paragraff 15, mewnosoder—

15A.  In relation to the registration of a care home service (within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”)) which is provided wholly or mainly to persons under the age of 18—

(a)a refusal of P’s application for registration under section 7 of the 2016 Act;

(b)a refusal under section 12 of the 2016 Act of P’s application to vary P’s registration (made in accordance with section 11(1)(a)(i) or (ii) of that Act);

(c)a cancellation of P’s registration under section 15(1)(b) to (f) or 23(1) of the 2016 Act;

(d)a cancellation of the registration of any person under section 15(1)(b) to (f) or 23(1) of the 2016 Act in relation to a care home service provided wholly or mainly to persons under the age of 18 in which P has been concerned in the management, or in which P had any financial interest;

(e)a variation of P’s registration under section 13(3)(b) or (4)(b) or 23(1) of the 2016 Act; or

(f)a refusal of P’s application for registration or cancellation of P’s registration under the Health and Personal Social Services (Quality, Improvement and Regulation) (Northern Ireland) Order 2003..

(3Yn Atodlen 3 (troseddau penodedig), ym mharagraff 1 (troseddau yng Nghymru a Lloegr), ar ôl is-baragraff (3), mewnosoder—

(4) An offence in relation to a care home service (within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”)) provided wholly or mainly to persons under the age of 18 under or by virtue of any of the following provisions of the 2016 Act—

(a)section 5 (requirement to register);

(b)section 43 (failure to comply with a condition);

(c)section 44 (false descriptions);

(d)section 45 (failure by service provider to comply with requirements in regulations); or

(e)section 47 (false statements)..

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Lloegr) 2010LL+C

21.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Lloegr) 2010(26) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “appropriate person”, ym mharagraff (c), ar ôl “Care Standards Act 2000”, mewnosoder “or, who is registered as the service provider under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016,”;

(b)yn y diffiniad o “registered manager”, ar ôl “Care Standards Act 2000”, mewnosoder “or with Social Care Wales(27)”.

(3Yn rheoliad 6 (trefniadau ar gyfer gofalu am blentyn), ym mharagraff (3)(e), ar ôl “Care Standards Act 2000”, mewnosoder “or, who is registered as the service provider under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

(4Yn rheoliad 28 (amlder yr ymweliadau), ym mharagraff (7)(b), ar ôl “or agencies)” mewnosoder “or under section 39 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (notifying local authorities of certain action under this Part)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010LL+C

22.—(1Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010(28) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (gorchmynion etc mewn perthynas â gofal plant), ar ôl paragraff 16 mewnosoder—

16A.  Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed—

(a)gwrthod cais gan P i gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016;

(b)gwrthod cais gan P o dan adran 12 o Ddeddf 2016 i amrywio cofrestriad P (a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i) neu (ii) o Ddeddf 2016);

(c)diddymu cofrestriad P o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016;

(ch)diddymu cofrestriad unrhyw berson o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016 mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed y bu P yn ymwneud â’i reoli neu y bu gan P fuddiant ariannol ynddo;

(d)amrywio cofrestriad P o dan adran 13(3)(b) neu (4)(b) neu 23(1) o Ddeddf 2016; neu

(dd)gwrthod cais P i gofrestru neu ddiddymu cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003..

(3Yn Atodlen 3 (tramgwyddau penodedig), ym mharagraff 1 (tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr), ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf 2016—

(a)adran 5 (gofyniad i gofrestru);

(b)adran 43 (methiant i gydymffurfio ag amod);

(c)adran 44 (disgrifiadau anwir);

(ch)adran 45 (methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau); neu

(d)adran 47 (datganiadau anwir)..

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Adeiladu 2010LL+C

23.—(1Mae Rheoliadau Adeiladu 2010(29) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 37A (darparu systemau llethu tân awtomatig), ym mharagraff (1)(a), yn lle’r geiriau “as defined” hyd at y diwedd rhodder “means places at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, are provided wholly or mainly to persons aged 18 or over”.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad a fu’n Derbyn Gofal (Lloegr) 2010LL+C

24.—(1Mae Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad a fu’n Derbyn Gofal (Lloegr) 2010(30) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “registered manager”, yn lle “as a manager of that home” rhodder “or with Social Care Wales(31) as a manager of that home”;

(b)yn y diffiniad o “secure children’s home”—

(i)ar ôl “a children’s home” mewnosoder “in England”,

(ii)ar ôl “Care Standards Act 2000”, mewnosoder “or premises in Wales at which a secure accommodation service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided and in respect of which a person is registered under Part 1 of that Act”.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010LL+C

25.—(1Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(32) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 11 (eithriadau gofal dydd i blant), yn lle “y gofelir amdano” hyd at y diwedd rhodder “sy’n cael gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, mewn lle y darperir gwasanaethau o’r fath ynddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ac y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad ag ef”.

(3Yn erthygl 12—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “cartref gofal” rhodder “lle y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu drosodd”;

(b)ym mharagraff (c), yn lle “canolfan breswyl i deuluoedd” rhodder “lle y darperir gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016”.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant gan Sefydliadau Gwirfoddol ac Eraill (Lloegr) 2011LL+C

26.—(1Mae Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant gan Sefydliadau Gwirfoddol ac Eraill (Lloegr) 2011(33) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 (cymhwyso’r Rheoliadau)—

(a)ar ôl “school” mewnosoder “in England”;

(b)ar ôl “the 2000 Act”, mewnosoder “or in a school in Wales at which a care home service, within the meaning of Part 1 of and paragraph 1(3) of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided”.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012LL+C

27.—(1Mae Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012(34) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 (pleidlais absennol mewn etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu), ym mharagraff 15(2) (gofynion ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff 14(4)), ar ôl paragraff (j) mewnosoder—

(ja)the person registered under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 in respect of a care home service (within the meaning of that Act) provided wholly or mainly to persons aged 18 or over where the applicant states that he or she is resident at a place where that service is provided;.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig) (Lloegr) 2012LL+C

28.—(1Mae Rheoliadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig) (Lloegr) 2012(35) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “care home”—

(a)yn union cyn “has the meaning”, mewnosoder “in England”;

(b)ar y diwedd, mewnosoder “, and in Wales means a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, which is provided wholly or mainly to adults”.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Bwrdd Comisiynu a Grwpiau Comisiynu Clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfrifoldebau a Rheolau Sefydlog) 2012LL+C

29.—(1Mae Rheoliadau Bwrdd Comisiynu a Grwpiau Comisiynu Clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfrifoldebau a Rheolau Sefydlog) 2012(36) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “secure children’s home”, ar y diwedd, mewnosoder “, or premises in respect of which a person is registered under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 to provide a secure accommodation service within the meaning of Part 1 of and Schedule 1 to that Act”.

(3Yn Atodlen 1 (personau ychwanegol y mae gan grŵp comisiynu clinigol gyfrifoldeb drosto), ym mharagraff 1—

(a)yn lle’r diffiniad o ““care home” and “children’s home”” rhodder—

“care home”—

(a)

in England, has the same meaning as in the Care Standards Act 2000, and

(b)

in Wales, means a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, which is provided wholly or mainly to adults;;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

“children’s home”—

(a)

in England, has the same meaning as in the Care Standards Act 2000, and

(b)

in Wales, means a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, which is provided wholly or mainly to children;.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014LL+C

30.—(1Mae Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014(37) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 12(5) (materion sy’n ddarostyngedig i ystyriaeth gydredol), yn lle “22” rhodder “22A”.

(3Yn rheoliad 15(3) (sylwadau a wneir gan “bersonau eraill” o dan adran 174(1)(b) neu (c), (3)(f), (4)(d) a (5)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), yn lle “22” rhodder “22A”.

(4Ar ôl rheoliad 22 (trin sylwadau ynghylch safonau gofal), mewnosoder—

Trin sylwadau ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedig

22A.(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, mewn unrhyw achos pan fo sylwadau’n ymwneud, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â gwasanaeth rheoleiddiedig, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cael y sylwadau hynny, o fewn 2 ddiwrnod gwaith ar ôl eu cael—

(a)anfon manylion am y sylwadau cyfain neu’r rhan honno ohonynt sy’n ymwneud â’r gwasanaeth rheoleiddiedig at y person a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru fel y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r gwasanaeth rheoleiddiedig hwnnw;

(b)gofyn i’r darparwr gwasanaeth, yr anfonir manylion ato o dan is-baragraff (a), roi gwybod i’r awdurdod, o fewn 10 diwrnod gwaith ei fod wedi cael canlyniad yr ystyriaeth o’r sylwadau; ac

(c)rhoi gwybod i’r person sy’n gwneud y sylwadau am y camau a gymerwyd o dan is-baragraffau (a) a (b).

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)sylwadau eisoes wedi eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth; neu

(b)yr awdurdod lleol o’r farn y byddai gweithredu o dan baragraff (1) yn debygol o beryglu neu ragfarnu ymchwiliad gan Weinidogion Cymru.

(3) Mewn unrhyw achos pan fo sylwadau’n ymwneud, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â gwasanaethau a ddarperir gan wasanaeth rheoleiddiedig y cofrestrwyd person mewn cysylltiad ag ef gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru os na fu’n bosibl datrys y sylwadau o dan reoliad 17..

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) 2014LL+C

31.—(1Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) 2014(38) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “care home”, ar y diwedd mewnosoder “, or a place at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to adults”.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2015LL+C

32.—(1Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2015(39) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 11(3) (esemptiad rhag ffioedd ar gyfer carcharorion a phersonau sydd wedi eu cadw’n gaeth mewn llety diogel arall), yn y diffiniad o “other secure accommodation”—

(a)ar ôl paragraff (b) hepgorer “or”;

(b)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

or

(d)premises at which a secure accommodation service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided;.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau’r Comisiwn Ansawdd Gofal (Aelodaeth) 2015LL+C

33.—(1Mae Rheoliadau’r Comisiwn Ansawdd Gofal (Aelodaeth) 2015(40) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen (y seiliau dros anghymhwyso), ar ôl paragraff 23, mewnosoder—.

23A.(1) Unless sub-paragraph (2) applies, the person’s registration as a provider of a regulated service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”), has been—

(a)cancelled under section 15(1)(b) to (f) or 23(1) of the 2016 Act; or

(b)varied under section 13(3)(b) or (4)(b) or 23(1) of the 2016 Act.

(2) Paragraph (1) does not apply where—

(a)the decision to cancel or vary has been subject to a direction of the Tribunal under section 26(4)(b) of the 2016 Act;

(b)the cancellation was only by reason of an application for cancellation having been made by the provider of a regulated service pursuant to section 14 of the 2016 Act; or

(c)the variation was only by reason of an application for variation having been made by the provider of a regulated service pursuant to section 11 of the 2016 Act..

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Llety Penodedig) (Cymru) 2015LL+C

34.—(1Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Llety Penodedig) (Cymru) 2015(41) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y diffiniad o “llety cartref gofal” (“care home accommodation”), yn lle “mewn cartref gofal” hyd at y diwedd rhodder “mewn lle y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion”.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015LL+C

35.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(42) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “person priodol” (“appropriate person”), ym mharagraff (c), ar ôl “Ddeddf Safonau Gofal 2000” mewnosoder “neu’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016”;

(b)yn y diffiniad o “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”), yn lle “Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017”;

(c)yn y diffiniad o “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), ar ôl “Ddeddf Safonau Gofal 2000”, mewnosoder “neu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru”(43).

(3Yn rheoliad 6 (paratoad a chynnwys y cynllun gofal a chymorth), ym mharagraff (3)(e), ar ôl “Ddeddf Safonau Gofal 2000”, mewnosoder “neu’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016”.

(4Yn rheoliad 31(7)(b) (amlder yr ymweliadau), ar ôl “sefydliadau neu asiantaethau penodol)” mewnosoder “neu o dan adran 39 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (hysbysu awdurdodau lleol am gamau penodol a gymerir o dan y rhan hon)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015LL+C

36.—(1Mae Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015(44) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 8(3)(c) yn lle “reolwr cofrestredig” rhodder “reolwr”(45).

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015LL+C

37.—(1Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015(46) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y diffiniad o “llety cartref gofal” (“care home accommodation”)—

(a)cyn paragraff (a), mewnosoder—

(za)llety yng Nghymru mewn man y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion;;

(b)ym mharagraff (a), yn lle “yng Nghymru neu Loegr” rhodder “yn Lloegr”.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015LL+C

38.—(1Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015(47) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y diffiniad o “darparwr” (“a provider”), ar ôl “wedi ei gofrestru o dan” mewnosoder “Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr y Ddeddf honno), neu berson sydd wedi ei gofrestru o dan”.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015LL+C

39.—(1Mae Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(48) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 11(4) (aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol) yn lle’r diffiniad o “darparwr gofal” (“care provider”) rhodder—

ystyr “darparwr gofal” (“care provider”) yw—

(a)

person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr y Ddeddf honno), a

(b)

person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth (o fewn ystyr y Ddeddf honno);.

(3Yn rheoliad 19(2) (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun), yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” (“care home”) rhodder—

ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw man y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion;.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 3

ATODLEN 2LL+CDirymiadau

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu.

Y Rheoliadau sydd wedi eu dirymuCyfeirnod
(1)

Darfuwyd y Rheoliadau hyn i bob effaith wrth ddirymu O.S. 2002/324 (Cy. 37), rheoliad 19(6) drwy O.S. 2009/2541 (Cy. 205), rheoliad 11(1), (4)(dd), ag iddo effaith o 12 Hydref 2009.

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002O.S. 2002/324 (Cy. 37)
Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002O.S. 2002/327 (Cy. 40)
Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003O.S. 2003/781 (Cy. 92)
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003O.S. 2003/947 (Cy. 128)(1)
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003O.S. 2003/1004 (Cy. 144)
Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004O.S. 2004/219 (Cy. 23)
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio) 2004O.S. 2004/1314 (Cy. 159)
Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2007O.S. 2007/311 (Cy. 28)
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2011O.S. 2011/1016 (Cy. 153)
Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013O.S. 2013/225 (Cy. 22)
Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygio) 2017O.S. 2017/51 (Cy. 22)

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”).

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn disodli’r system gofrestru ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol, a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000, pan oedd sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu cofrestru. Roedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol cael cofrestriad ar wahân ar gyfer pob lleoliad lle yr oedd gwasanaeth yn cael ei ddarparu.

Mae’r Ddeddf yn gweithredu dull gwahanol sy’n seiliedig ar y gwasanaeth. Rhaid i ddarparwr gofrestru â Gweinidogion Cymru er mwyn darparu unrhyw wasanaeth gofal a chymorth sydd wedi ei reoleiddio o dan y Ddeddf a bydd y cofrestriad hwnnw yn cynnwys manylion pob un o’r lleoliadau y mae’r darparwr yn darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn ar 2 Ebrill 2018 mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn:

(a)

gwasanaeth cartref gofal;

(b)

gwasanaeth llety diogel;

(c)

gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd; a

(d)

gwasanaeth cymorth cartref.

Bydd sefydliadau ac asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau mabwysiadu a maethu, a lleoliadau i oedolion yn parhau’n ddarostyngedig i gofrestriad ac arolygiad o dan Ddeddf 2000 hyd nes y bydd Rhan 1 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn yn llawn.

Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r cychwyniad rhannol hwn.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn pennu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei dirymu drwy’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1975/1023, a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/1707; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(4)

O.S. 1991/1505. Mewnosodwyd rheoliad 1A gan O.S. 2015/1988 (Cy. 261) ac fe’i hamnewidiwyd ar yr un diwrnod gan O.S. 2016/211 (Cy. 84). Mae diwygiadau eraill i’r Rheoliadau hyn nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 1991/1507; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/546, 2002/2935 a 2015/541.

(9)

O.S. 1992/551, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2015/1915; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol

(10)

O.S. 2001/341, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 2002/233, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 2002/635, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

O ganlyniad i wall drafftio, honnwyd bod ail baragraff (f) wedi ei ychwanegu gan Reoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2527 (Cy. 242)).

(15)

O.S. 2003/2382, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(16)

O.S. 2004/2695 (Cy. 235), y mae offerynnau diwygio iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(17)

O.S. 2006/1715 (Cy. 177), y mae offerynnau diwygio iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(18)

O.S. 2007/236, a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/52 (Cy. 23).

(19)

O.S. 2007/307 (Cy. 26), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/216 (Cy. 85); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(20)

O.S. 2007/310 (Cy. 27), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/216 (Cy. 85); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(21)

O.S. 2007/1104 (Cy. 116), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(22)

O.S. 2007/1253, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2012/479 a 2017/52 (Cy. 23).

(23)

O.S. 2008/3239 (Cy. 286), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(24)

Mae’n ofynnol i unigolyn cyfrifol gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) benodi person i reoli’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn yr achos hwn wasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer personau sy’n 18 oed neu drosodd (gweler Rhan 1 o Ddeddf 2016). Mae’r gofyniad hwn wedi ei nodi yn rheoliad 67 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (dyletswydd i benodi rheolwr) ac mae’n ofynnol i reolwr sydd wedi ei benodi yn unol â’r ddarpariaeth hon gael ei gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (gweler rheoliad 35(2)(e) o’r Rheoliadau hynny (addasrwydd staff)). Mae i Ofal Cymdeithasol Cymru (Social Care Wales) yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf 2016.

(25)

O.S. 2009/1547, y mae offerynnau diwygio iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(26)

O.S. 2010/959, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2011/581, 2013/706 a 2015/495.

(27)

Mae’n ofynnol i unigolyn cyfrifol gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) benodi person i reoli’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn yr achos hwn wasanaeth llety diogel (gweler Rhan 1 o Ddeddf 2016 ac Atodlen 1 iddi), y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “cartref diogel i blant”. Mae’r gofyniad hwn wedi ei nodi yn rheoliad 67 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (dyletswydd i benodi rheolwr) ac mae’n ofynnol i reolwr sydd wedi ei benodi yn unol â’r ddarpariaeth hon gael ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (gweler rheoliad 35(2)(e) o’r Rheoliadau hynny (addasrwydd staff)). Mae i Ofal Cymdeithasol Cymru (Social Care Wales) yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf 2016.

(28)

O.S. 2010/1703 (Cy. 163), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(29)

O.S. 2010/2214. Mewnosodwyd rheoliad 37A gan O.S. 2013/2730 (Cy. 264).

(30)

O.S. 2010/2797, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/706; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(31)

Mae’n ofynnol i unigolyn cyfrifol gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) benodi person i reoli’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn yr achos hwn wasanaeth llety diogel (gweler Rhan 1 o Ddeddf 2016 ac Atodlen 1 iddi), y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “cartref diogel i blant”. Mae’r gofyniad hwn wedi ei nodi yn rheoliad 67 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (dyletswydd i benodi rheolwr) ac mae’n ofynnol i reolwr sydd wedi ei benodi yn unol â’r ddarpariaeth hon gael ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (gweler rheoliad 35(2)(e) o’r Rheoliadau hynny (addasrwydd staff)). Mae i Ofal Cymdeithasol Cymru (Social Care Wales) yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf 2016.

(32)

O.S. 2010/2839 (Cy. 233), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn

(33)

O.S. 2011/582, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(34)

O.S. 2012/1917, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2017/52 (Cy. 52); mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(35)

O.S. 2012/2885, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(36)

O.S. 2012/2996, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(37)

O.S. 2014/1795 (Cy. 188), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/211 (Cy. 84); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(38)

O.S. 2014/2871, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(39)

O.S. 2015/570, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/261 a 2014/452; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(43)

Mae’n ofynnol i unigolyn cyfrifol gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“Deddf 2016”)) benodi person i reoli’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn yr achos hwn wasanaeth llety diogel (gweler Rhan 1 o Ddeddf 2016 ac Atodlen 1 iddi), y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “cartref diogel i blant”. Mae’r gofyniad hwn wedi ei nodi yn rheoliad 67 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (dyletswydd i benodi rheolwr) ac mae’n ofynnol i reolwr sydd wedi ei benodi yn unol â’r ddarpariaeth hon gael ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (gweler rheoliad 35(2)(e) o’r Rheoliadau hynny (addasrwydd staff)). Mae i “Gofal Cymdeithasol Cymru” (Social Care Wales) yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf 2016.

(45)

Mae’n ofynnol i unigolyn cyfrifol gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“Deddf 2016”)) benodi person i reoli’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn yr achos hwn wasanaeth llety diogel (gweler Rhan 1 o Ddeddf 2016 ac Atodlen 1 iddi), sy’n un o’r lleoliadau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “sefydliad” (gweler y diffiniad yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hyn a hefyd adran 188 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) i gael y diffiniad o “llety cadw ieuenctid”). Mae’r gofyniad hwn wedi ei nodi yn rheoliad 67 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (dyletswydd i benodi rheolwr) ac mae’n ofynnol i reolwr sydd wedi ei benodi yn unol â’r ddarpariaeth hon gael ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (gweler rheoliad 35(2)(e) o’r Rheoliadau hynny (addasrwydd staff)). Mae i Ofal Cymdeithasol Cymru (Social Care Wales) yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf 2016.

(46)

O.S. 2015/1840 (Cy. 268), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(48)

O.S. 2015/1989 (Cy. 299), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2017/491 (Cy. 103); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources