RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Absenoldeb oherwydd profedigaeth39.
(1)
Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl o dan amgylchiadau pan fo’r brofedigaeth yn ymwneud â pherson yng Nghategori A neu Gategori B.
(2)
At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw—
(a)
rhiant i’r gweithiwr amaethyddol;
(b)
mab neu ferch i’r gweithiwr amaethyddol;
(c)
priod neu bartner sifil y gweithiwr amaethyddol; neu
(d)
rhywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel gŵr a gwraig heb fod yn gyfreithiol briod neu rywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent mewn partneriaeth sifil.
(3)
At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori B yw—
(a)
brawd neu chwaer i’r gweithiwr amaethyddol;
(b)
nain neu daid i’r gweithiwr amaethyddol; neu
(c)
ŵyr neu wyres i’r gweithiwr amaethyddol.
(4)
At ddibenion paragraff (1) mae absenoldeb oherwydd profedigaeth yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill i gael absenoldeb o dan y Gorchymyn hwn.