Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018

Rheoliad 3

YR ATODLEN

Y darpariaethau cymwys yn Neddf 1984

(a)adran 8 (pŵer ynad heddwch i awdurdodi mynediad i fangre a’i chwilio)(1);

(b)adran 9 (darpariaethau arbennig ynglŷn â mynediad)(2) ac Atodlen 1 (gweithdrefn arbennig)(3);

(c)adran 15 (gwarantau chwilio – rhagofalon)(4);

(d)adran 16 (gweithredu gwarantau) yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn rheoliad 6;

(e)adran 19 (pŵer cyffredinol i ymafael etc.)(5);

(f)adran 20 (estyn pwerau i ymafael i wybodaeth gyfrifiadurol)(6);

(g)adran 21 (mynediad a chopïo)(7);

(h)adran 22(1) i (4) a (7) (cadw)(8);

(i)adran 60B (hysbysu am benderfyniad i beidio ag erlyn person a gyfwelwyd)(9);

(j)adran 66 (codau ymarfer)(10);

(k)adran 67 (codau ymarfer – atodol)(11);

(l)adran 77 (ymdrin â chyfaddefiadau gan bersonau sydd ag anabledd dysgu) yn ddarostyngedig i’r addasiad yn rheoliad 7.

(1)

Diwygiwyd adran 8 gan adrannau 113(3), (4) a 114(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, a pharagraff 43(3) o Ran 3 o Atodlen 7 iddi, ac adran 86 o Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Diwygiwyd adran 9 gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39). Mae diwygiad arall i’r adran hon ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Diwygiwyd Atodlen 1 gan baragraff 14 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2001; paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf Llysoedd 2003; adran 113(10) i (14) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 a pharagraff 43(13) o Ran 3 o Atodlen 7 iddi; ac adran 82(3) o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20). Mae diwygiad arall i’r adran hon ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

Diwygiwyd adran 15 gan adran 113(6) i (8) a 114(4) i (7) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, a pharagraff 1 o Ran 2 o Atodlen 17 iddi, ac erthygl 7 o Orchymyn Deddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/3496).

(5)

Diwygiwyd adran 19 gan baragraff 13(1) a (2)(a) o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2001.

(6)

Diwygiwyd adran 20 gan baragraff 13(1) a (2)(a) o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2001.

(7)

Diwygiwyd adran 21 gan baragraffau 1 a 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.

(8)

Mewnosodwyd adran 22(7) gan baragraffau 1 a 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.

(9)

Mewnosodwyd adran 60B gan adran 77 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3).

(10)

Diwygiwyd adran 66 gan adran 57(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p. 43). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

Diwygiwyd adran 67 gan Ran 1 o Atodlen 37 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.