YR ATODLEN

Rheoliad 3

Y darpariaethau cymwys yn Neddf 1984

(a)

adran 8 (pŵer ynad heddwch i awdurdodi mynediad i fangre a’i chwilio)5;

(b)

adran 9 (darpariaethau arbennig ynglŷn â mynediad)6 ac Atodlen 1 (gweithdrefn arbennig)7;

(c)

adran 15 (gwarantau chwilio – rhagofalon)8;

(d)

adran 16 (gweithredu gwarantau) yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn rheoliad 6;

(e)

adran 19 (pŵer cyffredinol i ymafael etc.)9;

(f)

adran 20 (estyn pwerau i ymafael i wybodaeth gyfrifiadurol)10;

(g)

adran 21 (mynediad a chopïo)11;

(h)

adran 22(1) i (4) a (7) (cadw)12;

(i)

adran 60B (hysbysu am benderfyniad i beidio ag erlyn person a gyfwelwyd)13;

(j)

adran 66 (codau ymarfer)14;

(k)

adran 67 (codau ymarfer – atodol)15;

(l)

adran 77 (ymdrin â chyfaddefiadau gan bersonau sydd ag anabledd dysgu) yn ddarostyngedig i’r addasiad yn rheoliad 7.