Cymhwyso Deddf 1984 a Deddf 20013
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliadau 4 i 8, mae darpariaethau Deddf 1984 a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (“y swyddogaethau PACE cymwys”) yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliadau 4 i 8, pan fo ACC yn arfer unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau PACE cymwys, mae’r darpariaethau a gynhwysir yn Rhan 2 o Ddeddf 2001 yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.
3
Yn ddarostyngedig i reoliad 6, mae darpariaethau Deddf 1984 a Deddf 2001 a gymhwysir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at “WRA” yn cael eu rhoi yn lle cyfeiriadau at “constable”, “police officer” a “the police” (sut bynnag y’u mynegir), ac mae’r darpariaethau hynny i’w dehongli yn unol â hynny.
4
Mae darpariaethau eraill Deddf 1984, i’r graddau y maent yn ymwneud â’r swyddogaethau PACE cymwys, yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.