xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 400 (Cy. 70)

Trethi, Cymru

Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018

Gwnaed

22 Mawrth 2018

Yn dod i rym

1 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 114ZA(1) a (2) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(1) ac adran 67A(1) a (2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001(2).

Yn unol ag adran 114ZA(4) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ac adran 67A(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

(1)

1984 p. 60. Mewnosodwyd adran 114ZA gan adran 185(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6).

(2)

2001 p. 16. Mewnosodwyd adran 67A gan adran 185(2) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.