2018 Rhif 400 (Cy. 70)

Trethi, Cymru

Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 114ZA(1) a (2) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 19841 ac adran 67A(1) a (2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 20012.

Yn unol ag adran 114ZA(4) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ac adran 67A(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.