Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001;
ystyr “ymchwiliad perthnasol” (“relevant investigation”) yw ymchwiliad troseddol sy’n ymwneud â mater y mae gan ACC swyddogaethau mewn perthynas ag ef.
Cymhwyso Deddf 1984 a Deddf 20013
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliadau 4 i 8, mae darpariaethau Deddf 1984 a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (“y swyddogaethau PACE cymwys”) yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliadau 4 i 8, pan fo ACC yn arfer unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau PACE cymwys, mae’r darpariaethau a gynhwysir yn Rhan 2 o Ddeddf 2001 yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.
3
Yn ddarostyngedig i reoliad 6, mae darpariaethau Deddf 1984 a Deddf 2001 a gymhwysir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at “WRA” yn cael eu rhoi yn lle cyfeiriadau at “constable”, “police officer” a “the police” (sut bynnag y’u mynegir), ac mae’r darpariaethau hynny i’w dehongli yn unol â hynny.
4
Mae darpariaethau eraill Deddf 1984, i’r graddau y maent yn ymwneud â’r swyddogaethau PACE cymwys, yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.
Defnyddio grym rhesymol4
Caiff person sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y swyddogaeth honno.
Chwilio personau5
Caiff ACC chwilio person—
a
pan ganfyddir y person mewn mangre sy’n cael ei chwilio gan ACC drwy ddibynnu ar warant a ddyroddwyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984, neu baragraff 12 o Atodlen 1 iddi; a
b
pan fo gan ACC achos rhesymol i gredu bod y person hwnnw yn meddu ar ddeunydd sy’n debygol o fod o werth sylweddol (pa un ai ar ei ben ei hun neu ynghyd â deunydd arall) i ymchwiliad perthnasol.
Addasu adran 16 o Ddeddf 1984 (gweithredu gwarantau)6
Mae adran 16 o Ddeddf 19843 (gweithredu gwarantau) wedi ei haddasu fel a ganlyn—
a
yn lle is-adran (3A) rhodder—
3A
If the warrant is an all premises warrant, no premises which are not specified in it may be entered or searched by a person exercising WRA functions unless that person has been authorised in writing by another person exercising WRA functions of at least Grade 7 (or equivalent).
b
yn lle is-adran (3B) rhodder—
3B
No premises may be entered or searched by a person exercising WRA functions for the second or any subsequent time under a warrant which authorises multiple entries unless that person has been authorised in writing by another person exercising WRA functions of at least Grade 7 (or equivalent).
Addasu adran 77(3) o Ddeddf 1984 (diffiniad o “independent person”)7
Mae adran 77(3) o Ddeddf 19844 (diffiniad o “independent person”) wedi ei haddasu i’r graddau bod y diffiniad o “independent person” yn cynnwys person sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn.
Awdurdodiad8
Nid yw’r swyddogaethau a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ond yn arferadwy gan bersonau sydd ag awdurdodiad ysgrifenedig gan ACC i gynnal ymchwiliadau perthnasol.