<Legislation xmlns="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2018/40" NumberOfProvisions="8" xsi:schemaLocation="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation http://www.legislation.gov.uk/schema/legislation.xsd" SchemaVersion="1.0" xml:lang="cy"><ukm:Metadata xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata">
<dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh</dc:identifier><dc:title>Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018</dc:title><dc:language>cy</dc:language><dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher><dc:modified>2018-01-16</dc:modified><dc:subject scheme="SIheading">AMAETHYDDIAETH, CYMRU</dc:subject>
<dc:description>Mae’r Rheoliadau hyn yn trosi yng Nghymru, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, Erthygl 21 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom sy’n gosod safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer amddiffyn rhag y peryglon sy’n deillio o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio, ac sy’n diddymu Cyfarwyddebau 89/618/Euratom, 90/641/Euratom, 96/29/Euratom, 97/43/Euratom a 2003/122/Euratom (OJ Rhif L 13, 17.1.14, t. 1).</dc:description>
<atom:link rel="self" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh/data.xml" type="application/xml"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/resources" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/resources/welsh" title="More Resources"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/act" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/made/welsh" title="whole act"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/introduction" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/introduction/made/welsh" title="introduction"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/signature" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/signature/made/welsh" title="signature"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/note" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh" title="note"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/body" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/body/made/welsh" title="body"/>
<atom:link rel="alternate" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made"/><atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/contents/made" title="Table of Contents"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/rdf+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh/data.rdf" title="RDF/XML"/><atom:link rel="alternate" type="application/akn+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh/data.akn" title="AKN"/><atom:link rel="alternate" type="application/xhtml+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh/data.xht" title="HTML snippet"/><atom:link rel="alternate" type="text/html" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh/data.htm" title="Website (XHTML) Default View"/><atom:link rel="alternate" type="text/csv" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh/data.csv" title="CSV"/><atom:link rel="alternate" type="application/pdf" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh/data.pdf" title="PDF"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/akn+xhtml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh/data.html" title="HTML5 snippet"/>
<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="cy" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/contents/made/welsh" title="Table of Contents"/>
<atom:link rel="up" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/made/welsh" title="Entire legislation"/><atom:link rel="prev" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/signature/made/welsh" title="Signature; Signature"/><atom:link rel="prevInForce" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/signature/made/welsh" title="Signature; Signature"/>
<ukm:SecondaryMetadata><ukm:DocumentClassification>
<ukm:DocumentCategory Value="secondary"/>
<ukm:DocumentMainType Value="WelshStatutoryInstrument"/>
<ukm:DocumentStatus Value="final"/>
<ukm:DocumentMinorType Value="regulation"/>
</ukm:DocumentClassification><ukm:Year Value="2018"/><ukm:Number Value="40"/><ukm:AlternativeNumber Category="Cy" Value="12"/><ukm:Made Date="2018-01-15"/><ukm:Laid Date="2018-01-16" Class="WelshAssembly"/><ukm:ComingIntoForce>
<ukm:DateTime Date="2018-02-06"/></ukm:ComingIntoForce><ukm:ISBN Value="9780348201932"/></ukm:SecondaryMetadata>
<ukm:Alternatives><ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/pdfs/wsi_20180040_mi.pdf" Date="2018-01-16" Size="637020" Language="Mixed"/></ukm:Alternatives>
<ukm:Statistics>
<ukm:TotalParagraphs Value="8"/>
<ukm:BodyParagraphs Value="8"/>
<ukm:ScheduleParagraphs Value="0"/>
<ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/>
<ukm:TotalImages Value="0"/>
</ukm:Statistics>
</ukm:Metadata><Secondary><ExplanatoryNotes DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/40/note/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2018/40/note">
<Comment>
<Para><Text>(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau<Emphasis>)</Emphasis></Text></Para>
</Comment>
<Text Hanging="indented">Mae’r Rheoliadau hyn yn trosi yng Nghymru, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, Erthygl 21 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom sy’n gosod safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer amddiffyn rhag y peryglon sy’n deillio o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio, ac sy’n diddymu Cyfarwyddebau 89/618/Euratom, 90/641/Euratom, 96/29/Euratom, 97/43/Euratom a 2003/122/Euratom (OJ Rhif L 13, 17.1.14, t. 1).</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 3 yn nodi na chaiff neb ychwanegu sylwedd ymbelydrol yn fwriadol wrth gynhyrchu bwyd anifeiliaid.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 4 yn nodi na chaiff neb fewnforio nac allforio unrhyw fwyd anifeiliaid y mae sylwedd ymbelydrol wedi ei ychwanegu ato’n fwriadol wrth ei gynhyrchu.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 5 yn darparu ei bod yn drosedd methu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4, ac y caniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn yn y llys ynadon drwy ddirwy neu drwy garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na 3 mis, neu’r ddau ohonynt.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 6 yn nodi mai dyletswydd pob awdurdod bwyd anifeiliaid yw gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu <Abbreviation Expansion="et cetera" xml:lang="la">etc.</Abbreviation> a Gorfodi) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”) (<Citation URI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2016/387" id="c00003" Class="WelshStatutoryInstrument" Year="2016" Number="0387" AlternativeNumber="Cy.121">O.S. 2016/387 (Cy. 121)</Citation>). Mae’r diwygiad yn dynodi’r Rheoliadau hyn yn “cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig” at ddibenion Rheoliadau 2016 fel, ymhlith pethau eraill, y caiff swyddogion awdurdodedig gyflwyno hysbysiadau gwella am fethu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4 o’r Rheoliadau hyn ac y caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad i gyflwyno hysbysiad gwella apelio i’r llys ynadon. Mae’r diwygiad hefyd yn caniatáu, os cydymffurfir â gofynion penodol, i lys osod gorchymyn gwahardd/gorchymyn gwahardd brys ar weithredwr busnes bwyd anifeiliaid am fethu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4, ac mae’n caniatáu i swyddogion awdurdodedig fynd i fangre nad yw’n annedd i ymchwilio i achos o beidio â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4 ac i arolygu cynhyrchion, cymryd samplau ohonynt, a’u cadw neu ymafael ynddynt. Mae’r diwygiad hefyd yn caniatáu i berson sydd wedi ei gyhuddo o fethu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4 i ddibynnu ar amddiffyniad diwydrwydd dyladwy mewn amgylchiadau penodol.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 8 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) (<Citation URI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2009/3376" id="c00004" Class="WelshStatutoryInstrument" Year="2009" Number="3376" AlternativeNumber="Cy.298">O.S. 2009/3376 (Cy. 298)</Citation>). Mae’r diwygiad yn dynodi’r Rheoliadau hyn yn “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” at ddibenion Rheoliadau 2009. Ymhlith pethau eraill, mae’r diwygiad yn caniatáu i awdurdodau bwyd anifeiliaid rannu gydag awdurdodau bwyd anifeiliaid eraill unrhyw wybodaeth a geir ganddynt wrth iddynt orfodi’r Rheoliadau hyn.</Text>
<Text Hanging="indented">Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.</Text>
</ExplanatoryNotes></Secondary></Legislation>