NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn trosi yng Nghymru, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, Erthygl 21 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom sy’n gosod safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer amddiffyn rhag y peryglon sy’n deillio o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio, ac sy’n diddymu Cyfarwyddebau 89/618/Euratom, 90/641/Euratom, 96/29/Euratom, 97/43/Euratom a 2003/122/Euratom (OJ Rhif L 13, 17.1.14, t. 1).

Mae rheoliad 3 yn nodi na chaiff neb ychwanegu sylwedd ymbelydrol yn fwriadol wrth gynhyrchu bwyd anifeiliaid.

Mae rheoliad 4 yn nodi na chaiff neb fewnforio nac allforio unrhyw fwyd anifeiliaid y mae sylwedd ymbelydrol wedi ei ychwanegu ato’n fwriadol wrth ei gynhyrchu.

Mae rheoliad 5 yn darparu ei bod yn drosedd methu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4, ac y caniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn yn y llys ynadon drwy ddirwy neu drwy garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na 3 mis, neu’r ddau ohonynt.

Mae rheoliad 6 yn nodi mai dyletswydd pob awdurdod bwyd anifeiliaid yw gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”) (O.S. 2016/387 (Cy. 121)). Mae’r diwygiad yn dynodi’r Rheoliadau hyn yn “cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig” at ddibenion Rheoliadau 2016 fel, ymhlith pethau eraill, y caiff swyddogion awdurdodedig gyflwyno hysbysiadau gwella am fethu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4 o’r Rheoliadau hyn ac y caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad i gyflwyno hysbysiad gwella apelio i’r llys ynadon. Mae’r diwygiad hefyd yn caniatáu, os cydymffurfir â gofynion penodol, i lys osod gorchymyn gwahardd/gorchymyn gwahardd brys ar weithredwr busnes bwyd anifeiliaid am fethu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4, ac mae’n caniatáu i swyddogion awdurdodedig fynd i fangre nad yw’n annedd i ymchwilio i achos o beidio â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4 ac i arolygu cynhyrchion, cymryd samplau ohonynt, a’u cadw neu ymafael ynddynt. Mae’r diwygiad hefyd yn caniatáu i berson sydd wedi ei gyhuddo o fethu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4 i ddibynnu ar amddiffyniad diwydrwydd dyladwy mewn amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) (O.S. 2009/3376 (Cy. 298)). Mae’r diwygiad yn dynodi’r Rheoliadau hyn yn “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” at ddibenion Rheoliadau 2009. Ymhlith pethau eraill, mae’r diwygiad yn caniatáu i awdurdodau bwyd anifeiliaid rannu gydag awdurdodau bwyd anifeiliaid eraill unrhyw wybodaeth a geir ganddynt wrth iddynt orfodi’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.