xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 35 (Cy. 11) (C. 6)

Y Dreth Dirlenwi, Cymru

Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018

Gwnaed

11 Ionawr 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 97(2) a (3) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Ionawr 2018

2.  Y dyddiad penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 25 Ionawr 2018—

(a)adran 8(4) (diffiniadau mewn perthynas â gweithgarwch safle tirlenwi);

(b)adran 20(3) i (6) (cais am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy);

(c)adran 21(1) i (5) a (7) (cais am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt dŵr);

(d)adrannau 24 i 26 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â’r dull o bennu pwysau deunydd, pŵer i addasu darpariaeth sy’n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd a rhyddhadau: cyffredinol);

(e)adran 29(2) a (3) (cymeradwyo adfer safle);

(f)adran 30 (adfer safle: y weithdrefn ar gyfer cymeradwyaeth);

(g)adran 31 (adfer safle: amrywio cymeradwyaeth);

(h)adran 34 (cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy);

(i)adran 35(2) i (5) (cais i fod yn gofrestredig);

(j)adran 36 (newidiadau a chywiro gwybodaeth);

(k)adran 37(5) a (6) (canslo cofrestriad);

(l)adran 38 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â chofrestru);

(m)adran 39(5) i (8) (cyfnodau cyfrifyddu);

(n)adran 40 (pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio);

(o)adran 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi);

(p)adran 55 (dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu);

(q)adran 57(3) (cofnodion man nad yw at ddibenion gwaredu);

(r)adran 58 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu);

(s)adran 59 (pwerau archwilio);

(t)adran 66 (cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion eraill sy’n ymwneud â chofrestru);

(u)adran 67 (asesu cosb o dan adran 66);

(v)adrannau 70 i 72 (talu cosbau, gwahardd cosbi ddwywaith ac atebolrwydd cynrychiolwyr personol);

(w)Pennod 6 (achosion arbennig) o Ran 5 (darpariaeth atodol), ac eithrio adrannau 85 i 87;

(x)adran 90 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(2)) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau yn Atodlen 4 y cyfeirir atynt ym mharagraff (z);

(y)Atodlen 2 (yr hyn sydd i’w gynnwys yn y gofrestr); a

(z)yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016)––

(i)paragraffau 4 i 8;

(ii)paragraff 16; a

(iii)paragraffau 18 i 20.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018

3.  Daw unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf, i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018, i rym ar y dyddiad hwnnw.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

11 Ionawr 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018. Mae’r darpariaethau hyn yn galluogi i geisiadau amrywiol gael eu gwneud i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) ac yn darparu’r gallu i ACC gymeradwyo’r ceisiadau hyn cyn casglu treth gwarediadau tirlenwi. Mae darpariaethau perthnasol sy’n ymwneud ag apelau a chosbau hefyd yn cael eu cychwyn ar y dyddiad hwn.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2018 i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn eisoes cyn y dyddiad hwn.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 14(3) a (6) (yn rhannol)18 Hydref 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)
Adran 1718 Hydref 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)
Adran 3318 Hydref 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)
Adran 41(9)18 Hydref 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)
Adran 46(4)18 Hydref 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)
Adran 5418 Hydref 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)
Adran 608 Tachwedd 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)
Adran 8718 Hydref 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)
Adran 9118 Hydref 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)
Adran 928 Tachwedd 20172017/955 (Cy. 242) (C. 89)

Gweler hefyd adran 97(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Medi 2017 (y diwrnod drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol).