Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Ionawr 20182.
Y dyddiad penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 25 Ionawr 2018—
(a)
adran 8(4) (diffiniadau mewn perthynas â gweithgarwch safle tirlenwi);
(b)
adran 20(3) i (6) (cais am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy);
(c)
adran 21(1) i (5) a (7) (cais am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt dŵr);
(d)
adrannau 24 i 26 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â’r dull o bennu pwysau deunydd, pŵer i addasu darpariaeth sy’n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd a rhyddhadau: cyffredinol);
(e)
adran 29(2) a (3) (cymeradwyo adfer safle);
(f)
adran 30 (adfer safle: y weithdrefn ar gyfer cymeradwyaeth);
(g)
adran 31 (adfer safle: amrywio cymeradwyaeth);
(h)
adran 34 (cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy);
(i)
adran 35(2) i (5) (cais i fod yn gofrestredig);
(j)
adran 36 (newidiadau a chywiro gwybodaeth);
(k)
adran 37(5) a (6) (canslo cofrestriad);
(l)
adran 38 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â chofrestru);
(m)
adran 39(5) i (8) (cyfnodau cyfrifyddu);
(n)
adran 40 (pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio);
(o)
adran 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi);
(p)
adran 55 (dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu);
(q)
adran 57(3) (cofnodion man nad yw at ddibenion gwaredu);
(r)
adran 58 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu);
(s)
adran 59 (pwerau archwilio);
(t)
adran 66 (cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion eraill sy’n ymwneud â chofrestru);
(u)
adran 67 (asesu cosb o dan adran 66);
(v)
adrannau 70 i 72 (talu cosbau, gwahardd cosbi ddwywaith ac atebolrwydd cynrychiolwyr personol);
(w)
Pennod 6 (achosion arbennig) o Ran 5 (darpariaeth atodol), ac eithrio adrannau 85 i 87;
(x)
(y)
Atodlen 2 (yr hyn sydd i’w gynnwys yn y gofrestr); a
(z)
yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016)––
(i)
paragraffau 4 i 8;
(ii)
paragraff 16; a
(iii)
paragraffau 18 i 20.