2018 Rhif 342 (Cy. 62) (C. 29)
Datgelu Gwybodaeth, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru a Lloegr) 2018

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 118(5) a (7) o Ddeddf yr Economi Ddigidol 20171.

Enwi a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru a Lloegr) 2018.

(2)

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2017” yw Deddf yr Economi Ddigidol 2017.

Y darpariaethau sy’n dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn2.

Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2017 i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn—

(a)

adran 35 (datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), at ddibenion gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath, yn unig;

(b)

adran 38 (datgelu gwybodaeth i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.), at ddibenion gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath, yn unig; ac

(c)

adran 44 (rheoliadau), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r dibenion a bennir ym mharagraffau (a) a (b).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20183.

(1)

Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018 i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu’n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath—

(a)

adran 35 (datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), at bob diben sy’n weddill;

(b)

adran 38 (datgelu gwybodaeth i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.), at bob diben sy’n weddill;

(c)

adran 39 (datgelu gwybodaeth gan ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.);

(d)

adran 40 (darpariaethau pellach ynghylch datgeliadau o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 35 i 39);

(e)

adran 41 (cyfrinachedd gwybodaeth bersonol);

(f)

adran 42 (gwybodaeth a ddatgelir gan Gyllid a Thollau);

(g)

adran 43 (cod ymarfer);

(h)

adran 44 (rheoliadau), at yr holl ddibenion sy’n weddill;

(i)

adran 45 (dehongli’r bennod hon etc.);

(j)

Atodlen 4 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adran 35);

(k)

Atodlen 6 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adrannau 38 a 39).

(2)

Daw Penodau 5 a 6 o Ran 5 o Ddeddf 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018, i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn cychwyn darpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn, at ddiben gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath.

Mae rheoliad 3 yn cychwyn darpariaethau ym Mhennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2018, at yr holl ddibenion sy’n weddill ac i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu’n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath.

Mae rheoliad 3 hefyd yn cychwyn Penodau 5 a 6 o Ran 5 o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2018 i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru.

NODYN AM Y RHEOLIADAU CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym, neu maent i’w dwyn i rym, drwy reoliadau cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Rheoliadau hyn:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 4 (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 4 (dibenion pellach)

22 Tachwedd 2017

2017/1136

Adran 4 (at y dibenion sy’n weddill)

28 Rhagfyr 2017

2017/1286

Adran 5

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 6

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 8

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 14 (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 15 (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 16

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 17

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 21(5) (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 22 (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 25

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 26(2)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 27

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 30(1) a (2) (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 32

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 33

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 34

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 35 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 36 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 43 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 44 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 46 (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 47 (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 48 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 52 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 54 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 56 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 60 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 62 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 70 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 74

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 76

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 77

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 78

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 79, ac eithrio is-adran (3) (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 80 (yn rhannol)

1 Hydref 2017

2017/765

Adran 81 (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 87

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 92

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 93, ac eithrio is-adran (3)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 95

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 98

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 100

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 101

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 102

1 Hydref 2018

2017/765

Adran 104

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 106 (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 108

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 109

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Adran 110

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Atodlen 1 (yn rhannol)

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Atodlen 1 (darpariaethau pellach)

22 Tachwedd 2017

2017/1136

Atodlen 1 (at y dibenion sy’n weddill)

28 Rhagfyr 2017

2017/1286

Atodlen 2

28 Rhagfyr 2017

2017/1286

Atodlen 3, paragraff 47

31 Gorffennaf 2017

2017/765

Atodlen 3 (at y dibenion sy’n weddill)

28 Rhagfyr 2017

2017/1286

Gweler hefyd adran 118 o’r Ddeddf ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 27 Ebrill 2017 a 27 Mehefin 2017.