(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn cychwyn darpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn, at ddiben gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath.
Mae rheoliad 3 yn cychwyn darpariaethau ym Mhennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2018, at yr holl ddibenion sy’n weddill ac i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu’n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath.
Mae rheoliad 3 hefyd yn cychwyn Penodau 5 a 6 o Ran 5 o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2018 i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru.