NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud ag:
(a)
talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru;
(b)
y Siarter safonau a gwerthoedd;
(c)
pwerau ymchwilio sifil Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”);
(d)
cosbau sifil sy’n ymwneud ag ymchwiliadau;
(e)
llog;
(f)
talu a gorfodi;
(g)
adolygiadau ac apelau; ac
(h)
ymchwiliadau i droseddau gan ACC.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018 ar y dyddiad hwnnw.